Chwerthin yr Holl Ffordd i Les Gwell mewn Plentyndod
Mae chwarae yn elfen hanfodol ar gyfer plentyndod hapus ac iach.
Mae cyfleoedd plant i chwarae gyda phlant eraill yn hanfodol i'w hadferiad yn dilyn cyfnod hir o ansicrwydd, pryder a dryswch a achosir gan bandemig COVID-19.
Mae'r prosiect hwn yn gweithio gydag ysgolion yn Ne Cymru a'r elusen genedlaethol ar gyfer chwarae plant, Chwarae Cymru, i godi ymwybyddiaeth o hiwmor fel rhan bwysig o chwarae a lles yn ystod plentyndod.
Bydd y prosiect yn gweithio gyda phlant a gweithwyr addysg proffesiynol i gyd-ddylunio llyfryn am bwysigrwydd a manteision hiwmor wrth chwarae ar gyfer gwefan Chwarae Cymru a datblygu Gemau Giggle i gefnogi hiwmor mewn chwarae mewn lleoliadau Cyfnod Sylfaen.
Cysylltu â ni
I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun Arloesedd i Bawb neu unrhyw un o'r prosiectau rydym yn eu cefnogi, cysylltwch â ni: