Rhoi sylw i ieithoedd rhyngwladol mewn ysgolion cynradd yng Nghymru
O dan y cwricwlwm newydd yng Nghymru, rhaid i bob ysgol gynradd gyflwyno ieithoedd rhyngwladol o Flwyddyn 5.
Bydd hyn yn gam mawr i athrawon, nad oes ganddynt arbenigedd na hyder o bosibl wrth addysgu ieithoedd rhyngwladol.
Mae'r prosiect hwn yn cefnogi athrawon ledled Cymru drwy gynhyrchu pecyn cymorth ar-lein am ddim o adnoddau addysgu gan gynnwys modiwlau thematig a chanllaw addysgeg ar sut i'w cyflwyno yn unol â'r cwricwlwm newydd.
Bydd tîm y prosiect yn gweithio gyda chonsortia addysgol rhanbarthol ledled Cymru, ysgolion peilot a chanolfannau Llwybrau at Ieithoedd ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Bangor.
Cysylltu â ni
I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun Arloesedd i Bawb neu unrhyw un o'r prosiectau rydym yn eu cefnogi, cysylltwch â ni: