Y Tu Hwnt i Blismona: Archwilio Dewisiadau Amgen i Gymru
Mae'r prosiect hwn yn cyfuno troseddeg gyhoeddus ag ymgysylltu ym maes y celfyddydau i edrych ar gwestiynau ynghylch hil, plismona a dewisiadau amgen i blismona sy'n canolbwyntio ar orfodi a chyfiawnder cosbol yng Nghymru.
Nid yw Cymru'n rhydd rhag materion cyfiawnder troseddol ar sail hil sy'n ymwneud â Black Lives Matter. Mae ymchwil gan y brifysgol wedi tynnu sylw at duedd hiliol yn y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru, a gwahaniaethau sylweddol ar sail hil o ran cyfraddau carcharu, hyd y dedfrydau a stopio a chwilio.
Mae pobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig hefyd yn fwy tebygol o ddioddef erledigaeth droseddol. Ymddengys bod patrymau hirsefydlog o wahaniaeth ar sail hil mewn profiadau pobl o brosesau gorfodi'r heddlu wedi'u gwaethygu ymhellach ym maes plismona rheoliadau COVID-19.
Bydd y prosiect yn curadu symposiwm a chyfres o weithdai sy'n dwyn ynghyd ymgyrchwyr, academyddion, artistiaid ac aelodau o gymunedau yr effeithir arnynt i ystyried yn fanwl yr anghyfiawnderau hyn a chreu atebion.
Cysylltu â ni
I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun Arloesedd i Bawb neu unrhyw un o'r prosiectau rydyn ni’n eu cefnogi, cysylltwch â ni: