‘A Real Difference’ – ‘Gwahaniaeth Mawr’:
Mae myfyrwyr a meddygon wedi cyfeirio at y 'gwahaniaeth mawr' y mae astudio meddygaeth yn y Gymraeg wedi'i wneud i'w gallu i ddysgu a sut y bu'n hynod bwysig yn eu hymarfer.
Ar hyn o bryd gall myfyrwyr meddygol Cymru ym mhrifysgolion Cymru ddewis dysgu hyd at 30% o'u rhaglen yn Gymraeg a chael eu gwerthuso drwy gyfrwng y Gymraeg. Fodd bynnag, mae’n rhaid i fyfyrwyr sy'n dymuno gwneud hynny baratoi, astudio ac ymchwilio drwy destunau a chyhoeddiadau meddygol Saesneg, ac mae hyn yn eu rhoi nhw a chleifion Cymraeg eu hiaith o dan anfantais.
Bydd y prosiect hwn yn comisiynu'r gwaith o gyfieithu testun peilot y Doctors Academy, sef un o’r prif ddarparwyr addysg a hyfforddiant meddygol annibynnol ac arloesol ar y lefel ryngwladol.
Bydd y prosiect hefyd yn ariannu interniaeth i fyfyriwr ôl-raddedig mewn Astudiaethau Cyfieithu gyfieithu'r testun. Bydd y testun meddygol ar gael ar ffurf adnodd mynediad agored i bob gweithiwr meddygol proffesiynol.
Cysylltu â ni
I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun Arloesedd i Bawb neu unrhyw un o'r prosiectau rydyn ni’n eu cefnogi, cysylltwch â ni: