Ewch i’r prif gynnwys

Perthyn

Gydag Eisteddfod Genedlaethol 2024 ym Mhontypridd, bu Prosiect Perthyn, yn ymgysylltu â phobl ifanc heb gynrychiolaeth ddigonol mewn rhaglen gyfranogol o weithgareddau sy'n annog ymwybyddiaeth ddiwylliannol ac undod rhwng siaradwyr Cymraeg, dysgwyr a chefnogwyr yr iaith.

Gwahoddwyd grŵp amrywiol o fyfyrwyr prifysgol i archwilio gwreiddiau radical yr Eisteddfod ochr yn ochr â Chyngor Celfyddydau Cymru. Estynnodd y myfyrwyr allan i gysylltu â phobl ifanc o Brifddinas-Ranbarth Caerdydd i gyflwyno stori ysbrydoledig am hanes a diwylliant yr Eisteddfod.

Roedd y prosiect yn gweithio gyda artistiaid a chynhyrchwyr diwylliannol i gyd-ddatblygu fframwaith ymchwil gweithredu, mentora'r myfyrwyr, a chynnal sesiynau myfyrio rhwng cymheiriaid.  Gweithiodd cynhyrchydd diwylliannol hefyd gyda'r myfyrwyr i gynhyrchu podlediad a fideo am eu profiadau. Gwyliwch y fideo.

Cynhaliodd tîm y prosiect seminarau a thrafodaeth banel gyhoeddus ar 'Beth yw'r Eisteddfod?' dan gadeiryddiaeth Aneirin Karadog, cyn-enillydd cadair yr Eisteddfod. Daeth dros 30 o staff, myfyrwyr ac oedolion sy'n ddysgwyr y brifysgol. Doedd y rhan fwyaf o'r mynychwyr erioed wedi bod i'r Eisteddfod. Dywedodd sawl cyfranogwr fod mynychu'r panel trafod wedi newid eu meddyliau am ymweld â'r Eisteddfod yn hytrach na chymryd yn ganiataol 'nid yw hyn i mi'.

Gwahoddwyd myfyrwyr a'r bobl ifanc (18-25 oed) o'r Fforwm Ieuenctid ym Mhafiliwn Grange yn Grangetown i fynychu ymweliad hwylus â'r Eisteddfod. Daeth trideg o bobl ifanc heb gynrychiolaeth ddigonol ar y daith - i gyd o gefndir ethnig leiafrifol ac o ardaloedd economaidd-gymdeithasol isel. Nid oedd y bobl ifanc erioed wedi ymweld â'r Eisteddfod, neu nid yn rheolaidd.  Yn dilyn yr ymweliad, dywedodd y bobl ifanc y bydden nhw'n mynychu'r Eisteddfod yn y dyfodol ac yn dymuno eu bod wedi gallu treulio mwy o amser yno.

Bydd canfyddiadau'r prosiect yn helpu i newid y naratif o ran iaith a diwylliant Cymru o fewn a thu allan i'r Brifysgol.

Bydd y gyfres podlediadau a gynhyrchir yn y prosiect hwn yn cael ei defnyddio fel cyflwyniad i fyfyrwyr prifysgol newydd ac fel adnodd addysgol ar iaith a diwylliant Cymraeg ar gyfer myfyrwyr, staff ac aelodau cyfredol y cyhoedd.

Mae canfyddiadau'r prosiect wedi'u rhannu â'r Eisteddfod i lywio eu strategaeth cynhwysiant newydd sy'n anelu at wneud gwyliau yn y dyfodol yn fwy cynhwysol i unigolion o bob cefndir.