Mentora Amlieithog mewn Ysgolion Cynradd
Prosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy'n mynd i'r afael â'r gostyngiad yn nifer y bobl sy'n defnyddio ieithoedd tramor mewn ysgolion.
Mae Mentora Ieithoedd Tramor Modern yn brosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy'n mynd i'r afael â'r gostyngiad yn nifer y bobl sy'n defnyddio ieithoedd tramor mewn ysgolion drwy ddull mentora y profwyd ei fod yn ysbrydoli, yn ennyn brwdfrydedd ac yn annog dysgwyr cyn TGAU i ddewis astudio ieithoedd rhyngwladol.
Roedd cyllid SWCEP yn cefnogi ehangu'r prosiect i ddysgwyr ysgolion cynradd; cefnogi datblygiad athrawon drwy roi mewnwelediad i arferion addysgu amlieithog; a datblygu rhwydwaith rhwng sefydliadau addysg uwch partner ac ysgolion cynradd, gan roi cyfle i ddysgwyr gael cipolwg cynnar ar fywyd yn y brifysgol.
Ers i'r cyfnod ymgeisio agor ar gyfer myfyrwyr ac ysgolion cynradd, cafodd y prosiect ei gyflwyno ochr yn ochr â Phrifysgol De Cymru, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, ymgysylltu â 4 ysgol gynradd yng Nghaerdydd, derbyn ceisiadau gan 66 o fyfyrwyr prifysgol, ac ymgysylltu â 300 o ddysgwyr o ysgolion cynradd sy'n cymryd rhan.
Darllenwch fwy am lwyddiant ac effaith Mentora Ieithoedd Tramor Modern.
Ms Lucy Jenkins
National Coordinator MFL Student Mentoring Project