Wythnos Gyrfaoedd a Modelau Rôl Grangetown 2024
Cyflawni ‘newid sylweddol’ i’n menter wythnos Model Gyrfa a Rôl flynyddol i gynnwys cydweithrediadau newydd rhwng sawl sefydliadau partner addysg uwch ac addysg bellach.
Cyflawnodd y prosiect hwn 'newid sylweddol' ym menter flynyddol y Porth Cymunedol sef Wythnos Gyrfgaoedd a Modelau Rol Grangetown 2024, trwy ariannu ehangu'r digwyddiad i gynnwys cydweithrediadau newydd rhwng nifer o sefydliadau partner addysg uwch ac addysg bellach gan gynnwys Coleg Caerdydd a'r Fro, Y Brifysgol Agored yng Nghymru, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, a Phrifysgol De Cymru).
Ymgysylltodd dros 200 o ymwelwyr â 50 o stondinau addysg bellach ac uwch, gweithgareddau ymarferol, sgyrsiau a chyflwyniadau, gan gwmpasu ystod o bynciau ym maes Gofal Iechyd, STEM a'r Celfyddydau, i yrfaoedd gyda Heddlu De Cymru a'r Fyddin. Daeth dros 21 o ysgolion academaidd o Brifysgol Caerdydd ynghyd ag adrannau Gwasanaethau Proffesiynol (Adnoddau Dynol, Ehangu Cyfranogiad, Cyngor ac Arian a Gwasanaethau Llyfrgell).
Cofrestrodd mynychwyr i nifer o ymweliadau campws prifysgolion a cholegau ledled y ddinas, gan gynnwys taith i Ganolfan Bywyd Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, lle aeth 32 o deuluoedd ar daith o amgylch ein cyfleusterau a chymryd rhan mewn sawl gweithgaredd a gynhaliwyd gan staff academaidd.
Roedd y gronfa hefyd yn cefnogi cynllun peilot 6 wythnos o ddigwyddiadau teuluol ym Mhafiliwn Grange, gyda phob sefydliad partner yn arwain sesiwn wythnosol.