Bwrsariaeth Mewnwelediad Dinesig
Mae Mewnweliadau Cenhadaeth Ddinesig yn lleoliadau profiad gwaith gwirfoddol i fyfyrwyr a gefnogir gan fwrsariaeth a arweinir gan Brifysgol Caerdydd, ochr yn ochr â Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd a Phrifysgol De Cymru.
Rhoddodd y prosiect peilot hwn gyfle i fyfyrwyr gefnogi gweithgareddau Cenhadaeth Ddinesig ac Ymgysylltu â'r Cyhoedd trwy brofiad gwaith ymarferol sy'n yn gwneud gwahaniaeth effeithiol i gynnal prosiectau a chymunedau lleol, tra'n datblygu sgiliau cyflogadwyedd.
Mae'r rhaglen beilot hon wedi darparu cymorth ariannol i 75 o fyfyrwyr i gefnogi dros 32 o sefydliadau a phrosiectau gan gynnwys: Anturiaethau Organig Cwm Cynon; Tyfu Caerdydd; Oasis Caerdydd: Helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches i integreiddio yn eu cymuned; Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (Partneriaeth Ymchwil Trydydd Sector); Pafiliwn Grange; Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion (SHRN); Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion Namibia (NSHRN); a Chanolfan Datblygu Cymunedol De Glan yr Afon (Prosiect Treialon Siarad).