Dyfodol Cathays
Profodd y prosiect peilot hwn ddulliau arloesol o ysgogi a chyd-gynhyrchu gwybodaeth trwy gyfuno ymchwil, arbenigedd proffesiynol a phrofiad byw aelodau o'r gymuned drwy greu 'Labordai y Dyfodol'.
Roedd Labordai y Dyfodol yn ymwneud ag ymgysylltu â phartneriaid dinesig a thrigolion Cathays, gan gynnwys aelodau o'r SPARC - ein Parc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol yn Cathays, sefydliadau'r trydydd sector a'r sector cyhoeddus i ailddychmygu a dechrau creu dyfodol cymdeithasol gyfiawn i'r ardal sy'n canolbwyntio ar lesiant.
Cysylltodd y prosiect â 26 o randdeiliaid cymunedol i gyd-ddylunio gweithgareddau'r prosiect. Cynhaliwyd grwpiau ffocws yn haf 2024 gyda sesiwn gwerthuso dilynol i fesur effaith y prosiect.
Bydd ein technegau ysgogi gwybodaeth yn cael eu rhannu ar ôl y prosiect i gysylltu tystiolaeth â gweithredu cymunedol ar lawr gwlad, a sut y gall ein hymchwil gysylltu'n uniongyrchol â'u gwybodaeth â chymunedau i gyflawni newid cymdeithasol ystyrlon.