Prosiect Berlin Benjamin: Arferion cofio cyhoeddus mewn dinasoedd mewn argyfyngau
Creu canllawiau sain/darnau sain i ystyried arferion amgen o gofio cyhoeddus.
Roedd Walter Benjamin (1892–1940) yn athronydd, yn feirniad diwylliannol ac yn draethodydd Iddewig o'r Almaen. Roedd ei waith yn pontio theori Farcsaidd, theori gritigol, a beirniadaeth lenyddol. Roedd gwaith Benjamin yn ymdrin ag amrywiaeth o ddisgyblaethau, gan gynnwys estheteg, hanes, llenyddiaeth a diwinyddiaeth. Mae'n fwyaf adnabyddus am ei ddadansoddiadau hyddysg o gelfyddyd, diwylliant a moderniaeth, sy'n parhau i ddylanwadu ar feysydd megis astudiaethau'r cyfryngau, theori ddiwylliannol ac athroniaeth.
Mae’r prosiect hwn, dan arweiniad yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, wedi creu canllawiau sain/darnau sain ar gyfer lleoedd penodol yn Berlin i alluogi’r cyhoedd i ymwneud â bywyd a gwaith Benjamin mewn perthynas â chysyniadau allweddol ym maes theori gritigol a datblygu trefol cyfoes.
Cofio cyhoeddus
Nod y prosiect oedd hyrwyddo ffyrdd amgen o gofio cyhoeddus ac ymwneud â datblygiadau trefol cyfoes. Roedd y prosiect cydweithredol hwn yn seiliedig ar ymchwil academaidd ar Benjamin. Gweithiwyd gydag Archif Walter Benjamin, Academi’r Celfyddydau yn Berlin, Amgueddfa Charlottenburg-Wilmersdorf, a POLIGONAL, sef arfer o gyfathrebu trefol gyda dulliau artistig.
Datblygwyd 'Topograffeg Benjamin yn Berlin' gan y prosiect, gan fapio mannau lle’r oedd Benjamin wedi byw a gweithio, mannau yr ysgrifennodd amdanynt, mannau lle caiff ei gofio'n gyhoeddus, a mannau sy'n berthnasol i waith Benjamin. Mae’r ardaloedd hyn yn cynnwys Magdeburger Platz, Walter Benjamin Platz a Prinzregentenstrasse 66. Mae pob un o’r rhain yn ymdrin â chysyniadau o ddryswch, mannau awdurdodaidd, a 'mynd â hanes yn groes i’r graen'.
Gan ddod â llenyddiaeth wreiddiol ac eilaidd ynghyd, yn ogystal â recordiadau maes, cyfweliadau a gwaith ymchwil a gynhyrchwyd gan ddefnyddio archifau yn Berlin, crëwyd sgript i lwyfannu perfformiad cyhoeddus gan ddwy actores a dau artist sain yn Amgueddfa Charlottenburg-Wilmersdorf ar 20 Hydref 2024.
Mae darnau sain o'r perfformiad ar blatfform POLIGONAL Drifter. Byddant hefyd ar gael ar wefan Amgueddfa Charlottenburg-Wilmersdrof.
Camau nesaf
Mae tîm y prosiect yn ystyried opsiynau i wneud cais am gyllid ychwanegol i ddatblygu darnau sain ar gyfer mwy o leoedd o dopoleg Berlin Benjamin, a datblygu methodoleg at ddibenion 'cofio cyhoeddus beirniadol' y tu hwnt i'r defnydd o blaciau, cerfluniau ac enwau strydoedd y gellir eu hystyried i gofio Benjamin a ffigurau hanesyddol eraill.
Manylion cyswllt
Am ragor o wybodaeth ynghylch y prosiect, cysylltwch gyda: