Ewch i’r prif gynnwys

Chwyldroi Profiadau Ymwelwyr o Dreftadaeth Ddiwylliannol

Rhyddhau grym rhithffurfiau sgwrsadwy Deallusrwydd Artiffisial mewn Arddangosfeydd Rhyngweithiol.

Dan arweiniad yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg, ac ar y cyd ag Ystafelloedd Ymgynnull Caerfaddon yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, diben y prosiect hwn oedd gwella profiad ymwelwyr o dreftadaeth ddiwylliannol drwy ddatblygu rhithffurfiau sgwrsadwy Deallusrwydd Artiffisial (DA) sy'n creu profiadau ymgolli mewn arddangosfeydd rhyngweithiol.

Gan ddefnyddio technolegau DA arloesol, gall rhithffurfiau droi arddangosfeydd treftadaeth ddiwylliannol traddodiadol a disymud yn gyfarfyddiadau rhyngweithiol.

Ystyried perthynas â'r gorffennol o’r newydd

Nod y prosiect oedd rhoi bywyd i hanes Caerfaddon Sioraidd gan ddefnyddio technoleg flaenllaw rhithffurfiau sgwrsadwy, a raglennir i fod yn ymwybodol o gyd-destun, treftadaeth a hanes cyfoethog yr ystafelloedd ymgynnull, er mwyn helpu ymwelwyr i ystyried eu perthynas â'r gorffennol o’r newydd.

Mae'r dechnoleg hon yn caniatáu i ymwelwyr ryngweithio ag asiantau artiffisial, gan greu profiadau ymgolli sy’n swyno ac yn addysgu, ond ar ben hynny yn creu ffyrdd newydd o ddysgu, adrodd straeon a denu’r cyhoedd, a gall treftadaeth ddiwylliannol yn sgil hyn sbarduno darganfyddiadau a thrawsnewidiadau yn yr oes ddigidol.

Rhannwyd y prosiect yn ddau gam – cynnal adolygiad technegol i ddatblygu rhithffurfiau; a chynnal gweithdy cyd-gynhyrchu gydag Ystafelloedd Ymgynnull Caerfaddon a staff ac ymwelwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i helpu i ddylunio personoliaethau a phryd a gwedd y rhithffurfiau yn ogystal â mynd i'r afael â’r ystyriaethau moesegol.

Ynghlwm wrth ddeilliannau'r prosiect roedd fframwaith datblygu a oedd yn cynnwys meddalwedd, rhyngwyneb y defnyddiwr a dogfennaeth, a hynny er mwyn creu a ffurfweddu rhithffurfiau sgwrsadwy at ddibenion arddangosfeydd rhyngweithiol.

Camau nesaf

Uchelgais a deilliannau'r prosiect hwn yn y tymor hwy yw trawsnewid dysgu ac addysg gan ddefnyddio technolegau DA ym maes cadwraeth a dehongli treftadaeth ddiwylliannol. Mae rhithffurfiau sgwrsadwy yn cynnig profiadau ymgolli a rhyngweithiol sy'n meithrin chwilfrydedd, meddwl beirniadol a dysgu gydol oes. Mae gan y trawsnewid hwn y potensial i wella’r ffordd y mae’r gymdeithas yn deall ac yn gwerthfawrogi treftadaeth ddiwylliannol.

Cysylltu

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn, cysylltwch â:

Picture of Yipeng Qin

Dr Yipeng Qin

Uwch Ddarlithydd; Dirprwy Gyfarwyddwr Ymchwil

Telephone
+44 29208 75537
Email
QinY16@caerdydd.ac.uk