Darllen Hunaniaethau
Datblygu adnoddau addysgol digidol sy’n ymdrin â darllen hunaniaethau mewn testunau llenyddol Cymraeg yn yr ystafell ddosbarth.
Yn seiliedig ar ymchwil flaenorol dan arweiniad Ysgol y Gymraeg a oedd yn ymchwilio i addysgeg dehongli llenyddiaeth yng nghyd-destun amrywiaeth a chynhwysiant, roedd y cam hwn o'r prosiect wedi datblygu model ar y cyd i greu adnoddau addysgol digidol ar hunaniaethau darllen.
Ymhlith gweithgareddau a phrif gerrig milltir y prosiect roedd:
- ymchwilio i'r farchnad gyda disgyblion ac athrawon yn ysgolion uwchradd Cymru i ganfod yr anghenion a’r modelau i ddatblygu a rhannu adnoddau'r prosiect
- creu prototeip o'r adnoddau i'w rhannu â'r athrawon sy'n cymryd rhan at ddibenion adborth
- yn unol ag adborth, golygu a throi adnoddau dysgu a ddrafftiwyd yng nghamau blaenorol y prosiect yn adnoddau addysgol digidol ar y cyd â chwmni cyhoeddi Atebol
- datblygu rhwydweithiau a phartneriaethau strategol a fydd yn helpu i gefnogi a throsglwyddo gwybodaeth am y pecyn cymorth digidol yn genedlaethol (e.e. Consortia Addysg Cymru)
Cyhoeddir yr adnodd gan Atebol ar blatfform HWB Llywodraeth Cymru. Y bwriad yw trefnu rhagor o ddigwyddiadau ymgysylltu ag ysgolion yn Eisteddfod 2025.
Bydd tîm y prosiect yn monitro defnydd ac effaith yr adnodd drwy holiadur ar-lein sy’n rhan o’r pecyn cymorth digidol, a hynny i greu tystiolaeth er mwyn dylanwadu ar ddylunio a pholisi'r cwricwlwm addysg.
Hunaniaeth
O ganlyniad i'r prosiect, ymunodd arweinydd y prosiect, Siwan Rosser, â Grŵp Ymgynghori TGAU Cymraeg CBAC i gyfrannu at ddatblygu cwricwlwm TGAU Iaith a Llenyddiaeth arfaethedig newydd.
Hunaniaeth yw un o themâu craidd y cwricwlwm, a bydd yr offeryn Hunaniaethau Darllen yn cyd-fynd â gofynion y cymhwyster newydd.
Cwricwlwm i Gymru
Yn y tymor canolig a'r tymor hir, bydd gan allbynnau'r prosiect y potensial i ddylanwadu ar benderfyniadau cwricwlaidd a meysydd llafur Cymraeg yn unol ag amcanion y 'Cwricwlwm i Gymru' a'r newidiadau arfaethedig yng nghymwysterau TGAU Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg (o fis Medi 2025).
Bydd tîm y prosiect yn parhau i gynnal trafodaethau ymgynghorol â CBAC a Llywodraeth Cymru, a'r amcan yw diwygio maes llafur TGAU Cymraeg i ehangu'r ystod o hunaniaethau a safbwyntiau a gynrychiolir mewn destunau gosod llenyddol.
Cysylltu
Dr Nastaran Peimani
Darllenydd mewn Dylunio Trefol
Cyd-gyfarwyddwr MA Dylunio Trefol
Arweinydd y Grŵp Ymchwil Trefoldeb