Llunio pecyn cymorth i greu straeon ar y cyd â ffoaduriaid o Nagorno-Karabakh
Helpu ymarferwyr yn Armenia sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc ac eraill yr effeithir arnyn nhw oherwydd gwrthdaro i ddatblygu dulliau newydd o ymdrin â thrawma a meithrin gwytnwch a gobaith.
Cam cyntaf y prosiect hwn oedd llunio pecyn cymorth i gynorthwyo sefydliadau anllywodraethol (NGO) yn Armenia a gweithwyr diwylliannol i roi methodoleg ar waith gan ddefnyddio arferion adrodd straeon i ymgysylltu â ffoaduriaid o Nagorno-Karabakh, a deall anghenion y rheini sy'n gweithio gyda nhw yn well.
Dysgwch ragor am gam cyntaf y prosiect.
Roedd creu’r ddogfen gwmpasu yn gosod y sylfaen ar gyfer ail gam y prosiect pan aeth partneriaid y prosiect ati i gydweithio i greu, treialu a lledaenu’r pecyn cymorth i helpu ymarferwyr yn Armenia sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a phobl eraill yr effeithiwyd arnyn nhw gan wrthdaro diweddar i ddatblygu dulliau newydd o ymdrin â thrawma. Lansiwyd y pecyn cymorth yn Yerevan yng nghwmni cynrychiolwyr cyrff anllywodraethol a sefydliadau addysg uwch yn Armenia a agorwyd gan Lysgenhadaeth y DU.
Bellach, mae'r pecyn cymorth yn adnodd cymeradwy gan un o rwydweithiau UNICEF sy'n rhannu adnoddau ymarferol ar gyfer gwaith iechyd meddwl a chymorth seicogymdeithasol.
Datblygwyd perthynas newydd â Masoor Art House, sefydliad yn Yerevan sy'n gweithio gyda phobl ifanc o gymunedau ymylol, gan gynnwys prosiect gyda phlant sy'n byw ar y ffin ag Azerbaijan lle mae gwrthdaro wedi bod, llawer ohonyn nhw’n ffoaduriaid o Nagorno-Karabakh.
Cynhyrchodd Masoor Art House lyfr o straeon byrion gyda’r plant a gymerodd ran yn lansiad y pecyn cymorth, Tales from Armenia: Finding Our Way.
Mae tîm y prosiect yn parhau i fod mewn cysylltiad â Masoor Art House a sefydliadau eraill sy’n ymwneud â gwaith maes ac sy’n defnyddio’r pecyn cymorth yn eu gwaith pwysig gyda phlant a phobl ifanc.
Mae partneriaid y prosiect yn arwain y gwaith o geisio cyllid dilynol gan gyllidwyr rhyngwladol a rhanbarthol. Y prif nod fyddai ymestyn ein hastudiaeth beilot i ystod ehangach o leoliadau addysgol, gan gyrraedd mwy o blant a phobl ifanc y mae gwrthdaro yn Armenia a’r rhanbarth ehangach wedi effeithio arnyn nhw.