Olion
Cyd-greu adnoddau hanes cyfrwng Cymraeg i ysgolion.
Y prosiect hwn, dan arweiniad yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd, oedd y cam cyntaf yn y broses o greu cylchgrawn hanes yn Gymraeg i ddisgyblion ysgol. Prif amcanion y prosiect oedd cyd-greu a phrofi prototeip mewn gweithdai gydag ysgolion.
Cynhaliodd y prosiect weithdy cychwynnol ym Mhrifysgol Caerdydd ym mis Chwefror 2024 i athrawon hanes pedair ysgol leol - Ysgol Glantaf, Ysgol Plasmawr, Ysgol Bro Edern, ac Ysgol Gwynllyw. Soniodd athrawon bod diffyg adnoddau dysgu i’w galluogi i addysgu hanes yn effeithiol – yn enwedig yn Gymraeg. Cafwyd trafodaethau defnyddiol am yr adnoddau sydd ar gael ar hyn o bryd; lle roedd athrawon yn teimlo bod bylchau; pa adnoddau yr hoffent eu gweld yn cael eu datblygu; a heriau rhoi’r cwricwlwm newydd ar waith.
Gwnaed newidiadau i’r cynllun gwreiddiol yn dilyn adborth gan yr athrawon. Credai'r athrawon y byddai gwefan yn adnodd mwy defnyddiol, gydag elfen i’r disgybl yn unol â’r syniad gwreiddiol o gylchgrawn, ac elfen i'r athro a fyddai'n cynnwys cynlluniau traethawd y byddai modd eu lawrlwytho.
Cymru a'r Byd
Dewiswyd thema gyffredinol eang, sef 'Cymru a'r Byd', i gysylltu ffocws y cwricwlwm newydd ar hanes Cymru â datblygiadau ehangach yn fyd-eang. Y syniad oedd cynnwys unedau ar y wefan ar bynciau penodol sy’n ymwneud â’r thema hon.
Roedd cam nesaf y prosiect yn cynnwys adeiladu gwefan brototeip a oedd yn cynnwys unedau ar y diwydiant llechi yn y Gogledd, hanes y Llychlynwyr yng Nghymru, yn ogystal â gemau rhyngweithiol a chwisiau i ddisgyblion. Roedd y wefan hefyd yn cynnwys crynodebau o themâu allweddol, delweddau, llinellau amser a mapiau, a chyflwyniadau i ffynonellau. Crëwyd pum cynllun gwers y mae modd eu lawrlwytho ar gyfer pob uned i athrawon.
Ar ôl cwblhau’r gwefan prawf, fe'i rhannwyd gydag athrawon i gael adborth. Cafodd yr adnodd ganmoliaeth gan yr athrawon, oedd yn teimlo bod pobl wedi gwrando ar eu barn yn y gweithdai a gweithredu arno. Mae'r wefan brototeip yn cael ei phrofi ar hyn o bryd yn Ysgol Gyfun Glantaf yn Llandaf.
Roedd y cynllun yn amhrisiadwy o ran rhoi’r cyfle i ddatblygu adnodd fyddai’n cael gwir effaith ar brofiadau disgyblion sy’n dysgu hanes mewn ysgolion uwchradd, yn ogystal ar y rhai sy’n eu haddysgu.
Camau nesaf
Camau nesaf y prosiect fyddai sicrhau cyllid i droi’r prototeip yn wefan gwbl weithredol i gynnwys unedau dysgu ychwanegol, a’i gyflwyno i ragor o ysgolion ledled Cymru.
Manylion cyswllt
I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn, cysylltwch â: