Ewch i’r prif gynnwys

Canllaw arferion da i godi ymwybyddiaeth am effaith ansawdd aer dan do ar iechyd a lles lleiafrifoedd ethnig.

Ystyried sut mae arferion diwylliannol yn effeithio ar ansawdd aer dan do mewn aelwydydd ethnig leiafrifol.

Mae ymchwil flaenorol a ariannwyd gan Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA) gan arweinydd y prosiect, Satish BK, ac a barhawyd dan ofal Ysgol Pensaernïaeth Cymru, wedi dangos ei bod yn bosibl i lefelau carbon deuocsid mewn tai yn y DU lle y mae teuluoedd Asiaidd Prydeinig yn byw gyrraedd tair gwaith lefel cartrefi Gwyn Prydeinig oherwydd arferion coginio ac awyru.

Mae’n bosibl i arferion o'r fath arwain at risgiau iechyd a lleithder, gan arwain yn eu tro at lwydni. Gwaethygir y broblem ymhellach mewn cartrefi modern sy'n defnyddio ynni'n effeithlon ac yn aerglos gan arwain at amodau amgylcheddol gwael dan do.

Datblygu arfer da i wella ansawdd aer dan do

Yn sgil y prosiect hwn, datblygwyd ymwybyddiaeth o fabwysiadu ffordd o fyw er mwyn caniatáu i ymddygiad diwylliannol barhau ond sicrhau hefyd ansawdd aer mewnol gwell mewn cartrefi ethnig leiafrifol.

Ymhlith llwyddiannau allweddol y prosiect roedd datblygu Canllaw Arferion Da ar y cyd â Chyngor Caerdydd, Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig Cymru (EYST), a Llywodraeth Cymru. Mae’r canllaw yn cynnig argymhellion sy’n sensitif yn ddiwylliannol i breswylwyr a’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau er mwyn gwella ansawdd aer dan do ac amodau byw. Mae Cyngor Caerdydd yn parhau i ddosbarthu'r canllawiau mewn sioeau teithiol cyhoeddus ledled y ddinas.

Aeth tîm y prosiect ymgysylltu ati i dargedu trigolion lleol, gan sicrhau bod cymunedau ethnig leiafrifol a chymdeithasau tai yn cael gwybod am strategaethau ymarferol i wella lles.

Darllenwch allbynnau allweddol llawn y prosiect, gan gynnwys Canllaw yr Arferion Da

Camau nesaf

Y camau posibl nesaf yw sicrhau cyllid i wneud rhagor o ymchwil ar awyru yn y stoc dai, cydweithredu’n well â landlordiaid sy’n gweithio gyda grwpiau ethnig amrywiol i wella ansawdd tai, ac ystyried ymhellach ddylanwad ymddygiad defnyddwyr a ffyrdd o fyw ar ansawdd amgylcheddol dan do.

Cysylltu

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn, cysylltwch â:

Picture of Satish Bk

Dr Satish Bk

Uwch Ddarlithydd mewn Tectoneg Bensaernïol ac Uwch Diwtor Personol

Telephone
+44 29208 79400
Email
Satish.BK@caerdydd.ac.uk