Ewch i’r prif gynnwys

Meithrin empathi tuag at anifeiliaid mewn perygl drwy ysgrifennu creadigol a darlunio

Treialu gweithdai ysgrifennu creadigol a darlunio i fynd i’r afael â’r argyfwng ecolegol byd-eang.

Mae bioamrywiaeth yn dirywio ar raddfa frawychus, ond ychydig o rywogaethau sydd mewn perygl – er enghraifft eirth gwynion, pengwiniaid a phandas – sy'n cipio'r penawdau, a bydd y rhan fwyaf o achosion o ddifodiant yn digwydd o'r golwg. Yn ôl 'Rhestr Goch o Rywogaethau dan Fygythiad' yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur, mae 41% o amffibiaid mewn perygl o ddifodiant, yn ogystal â 37% o siarcod a chathod môr, a 36% o gwrelau creu riffiau.

Ar y cyd â churaduron Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, mewn tri gweithdy cyhoeddus daeth nifer o oedolion ynghyd i ymgolli ym mywydau anifeiliaid mewn perygl drwy ymarferion darlunio a grym barddoniaeth.

Yn y gweithdai, arweiniwyd y sawl a gymerodd ran, llawer ohonyn nhw heb fawr o brofiad o ysgrifennu creadigol neu ddarlunio, drwy gyfres o weithgareddau. Aethon nhw ati i ymateb i'r sbesimenau o anifeiliaid sydd mewn perygl yng nghasgliad Hanes Byd Natur yr Amgueddfa, gan gynnwys cimwch crafanc gwyn yr afon, cwrel adain binc y môr, cragen adain, malwen fôr traed cennog a chrwban môr gwalchbig.

Gwella gwybodaeth am anifeiliaid sydd mewn perygl

Gwahoddwyd y sawl a gymerodd ran i arsylwi, disgrifio a darlunio'r anifeiliaid hyn, gan ddychmygu sut brofiad fyddai bod yn un o'r creaduriaid hyn a, drwy ysgrifennu, ceisio dal sut brofiad fyddai profi'r byd ar eu telerau nhw.

Roedd gwybodaeth ac angerdd y curaduron yn rhan amlwg o’r gweithgareddau creadigol - Oeddech chi'n gwybod bod y pangolin coed yn cael ei hela am nodweddion meddyginiaethol ei gennau? Neu fod y falwen fôr traed cennog yn llawn haearn?

Yn y cyfweliadau ar ôl y gweithdy buodd y sawl a gymerodd ran yn sôn am anifeiliaid mewn perygl a'u hagweddau tuag at fyd natur. Dywedodd un person fod y gweithdy wedi 'gwella ei wybodaeth a'i ddealltwriaeth' o anifeiliaid mewn perygl. Mae rhywun arall wedi dechrau casglu sbwriel yn y gymuned leol ers y gweithdy.

Camau nesaf

Bellach, mae tîm y prosiect yn gweithio ar ehangu cwmpas y prosiect i greu pecyn cymorth gweithdy i unigolion neu sefydliadau a hoffai ddefnyddio ysgrifennu creadigol a darlunio i ddatblygu gwell dealltwriaeth o anifeiliaid mewn perygl ac empathi tuag atyn nhw, yn ogystal â chymryd camau cadarnhaol dros y blaned.

Manylion cyswllt

Am ragor o wybodaeth ynghylch y prosiect yma, cysylltwch gyda:

Picture of Christina Thatcher

Dr Christina Thatcher

Darlithydd mewn Ysgrifennu Creadigol

Telephone
+44 29208 75662
Email
ThatcherC@caerdydd.ac.uk