Hwyluso ymgysylltu cymunedol wrth ymgynghori ar Gynlluniau Datblygu Lleol
Ehangu’n ddemograffig y graddau mae dinasyddion yn cymryd rhan mewn ymgyngoriadau.
Dan arweiniad Ysgol Pensaernïaeth Cymru a'r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, rhoddodd y prosiect hwn argymhellion o ymchwil tîm y prosiect ar waith ym maes ymgysylltu cymunedol cynhwysol â Chynlluniau Datblygu Lleol (CDLl).
Formalising a network of public and third sector organisations established through Community Consultation for Quality of Life a A Grangetown to Grow Up In, bu’r prosiect mewn partneriaeth â thimau Cynllunio a Chynllun Datblygu Lleol Cyngor Caerdydd i greu rhwydwaith cynghori ymgysylltu cymunedol i fod yn gyfaill beirniadol ar gynhwysiant ymgyngoriadau.
Ymgysylltu a arweinir gan y gymuned
Hwylusodd y cyllid weithdai i greu 'camau ymgysylltu' ar y cyd dan arweiniad y gymuned yn Nhrelái/Caerau, Grangetown, Sblot a Llaneirwg gyda'r nod o godi ymwybyddiaeth o'r CDLl i ehangu’n ddemograffig y graddau mae dinasyddion yn cymryd rhan mewn ymgyngoriadau.
Bu’r prosiect hwn yn cydweithio â Gweithredu yng Nghaerau a Threlái:, Grange Pavilion – Sefydliad Corfforedig Elusennol (CIO), Fforwm Ieuenctid Pafiliwn Grange, Gwirfoddolwyr Cymunedol Sblot, Common Wealth, a Chymorth Cynllunio Cymru i ymgysylltu â phobl yn y Cynllun Datblygu Lleol mewn ffyrdd hygyrch a chynhwysol er mwyn llywio polisïau cynllunio sy’n adlewyrchu amrywiaeth cymunedau a dinasyddion Caerdydd.
Camau nesaf
Mae Cyngor Caerdydd a’r sefydliadau cymunedol partner wrthi’n ystyried y camau nesaf o ran cyfuno’r ymchwil hon â strategaethau presennol y Cyngor yn ogystal â’r rheini sy’n dod i’r amlwg ym maes adfywio a chreu lleoedd.
Mae’n bosibl y bydd awdurdodau lleol eraill yn gallu defnyddi’r dull cydweithredol hwn a gellid ei gydnabod yn arfer gorau byd-eang drwy ddangos y berchnogaeth gydweithredol a wneir yn sgil penderfyniadau datblygu.
Darllenwch yr adroddiad llawn ar ymgysylltu cymunedol â chynlluniau datblygu lleol
Cysylltu
I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn, cysylltwch â:I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn, cysylltwch â: