Darganfod hanes lleol
Gwella’r broses o gyflwyno ac addysgu Hanes Cymru yn y Cwricwlwm Newydd i Gymru.
Dan arweiniad yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd, diben y prosiect hwn oedd deall yn well sut mae athrawon ysgolion cynradd yn cyflwyno hanes lleol yn rhan o'r Cwricwlwm newydd i Gymru, a rhannu â nhw dechnegau ac egwyddorion ymchwil a’r cronfeydd data a ddefnyddir gan haneswyr proffesiynol.
Un o amcanion allweddol y prosiect oedd ymdrin â’r heriau y mae athrawon yn eu hwynebu wrth addysgu hanes lleol Cymru yn ogystal â dangos yr adnoddau sydd ar gael i addysgu hanes lleol.
Cyflawnwyd hyn drwy gynnal pedwar gweithdy gyda grŵp o chwe athro ysgol gynradd yn ne Cymru i wybod rhagor am eu profiadau o addysgu hanes lleol. Roedd yr adborth yn dangos yr angen am adnoddau ac arweiniad ychwanegol i ennyn diddordeb plant mewn hanes lleol.
Yn dilyn gweithdai pellach gydag athrawon ysgol a phlant ysgolion cynradd, aed ati i lunio pecyn cymorth ar y cyd i athrawon at ddibenion addysgu hanes lleol.
Gwella ymarfer addysgu hanes
Yn hytrach na llunio gwersi unigol, ceisiodd y prosiect uwchsgilio a grymuso athrawon i ddefnyddio adnoddau gwahanol i ymgorffori hanes lleol yn eu cynlluniau gwaith a'u helpu i drawsnewid a gwella eu hymarfer addysgu hanes.
Cafodd pecyn cymorth newydd o adnoddau addysgu eu treialu gyda disgyblion Blwyddyn 6 Ysgol Bro Sannan ym Margod yng Nghwm Rhymni.
Ar y cyd ag adborth athrawon, roedd adborth disgyblion yn arbennig o bwysig yn y prosiect. Rhoddodd y disgyblion wybod eu bod yn deall ac yn uniaethu â’u hardal leol yn well; eu bod yn teimlo'n fwy cysylltiedig â'u cymuned leol ac yn falch ohoni; a'u bod yn teimlo eu bod wedi datblygu rhwymau cryfach gydag aelodau o'r teulu a chymdogion drwy rannu gwybodaeth hanesyddol newydd am eu hardal leol.
Rhoddodd yr athrawon a oedd yn rhan o'r prosiect wybod eu bod yn deall hanes lleol yn well a’u bod yn fwy hyderus am addysgu’r pwnc. Mae sawl ysgol sy'n cymryd rhan wedi newid y ffordd y mae hanes lleol yn cael ei addysgu yn yr ysgol ar ôl defnyddio ein pecyn cymorth.
Camau nesaf
Yn dilyn y cynllun peilot hwn, ac yn amodol ar ragor o gyllid, ein gobaith yw ehangu cylch gwaith, cwmpas ac effaith y pecyn cymorth i fod o fudd i ysgolion cynradd yng Nghymru, yn ogystal ag ehangu fersiwn i'r ysgolion uwchradd drwy ymgysylltu â Llywodraeth Cymru.
Manylion cyswllt
Am ragor o wybodaeth ynghylch y prosiect, cysylltwch gyda: