Ewch i’r prif gynnwys

Creu Naratifau am Leoedd ar y Cyd

Grymuso cymunedau: prosiect ffotograffiaeth drefol gyfranogol sy’n hyrwyddo adrodd straeon.

Roedd y prosiect hwn, dan arweiniad Ysgol Pensaernïaeth Cymru, wedi ysbrydoli pobl ifanc yn Grangetown, Caerdydd i ddatblygu eu sgiliau, cryfhau cysylltiadau yn y gymuned a’u hannog i fyfyrio’n feirniadol am leoedd trefol drwy ffotograffiaeth drefol.

Drwy ddull cyfranogol, gan gynnwys gweithdai rhyngweithiol, teithiau tywys â ffotograffau ac arddangosfeydd grŵp, cafodd y sawl a gymerodd ran y cyfle i ystyried sut mae lleoedd trefol yn cael eu llunio, eu dadlunio a'u hail-greu. Yn sgil y prosiect, cafwyd y cyfle i ystyried themâu hunaniaeth lle, trawsnewid trefol, bywiogrwydd diwylliannol a’r cof cyfunol.

Ymgysylltu trwy adrodd straeon a ffotograffiaeth

Ymhlith allbynnau allweddol y prosiect roedd:

  • Dau weithdy rhyngweithiol mewn cydweithrediad ag aelodau Fforwm Ieuenctid Pafiliwn Grangetown
  • Llyfr lluniau wedi'i olygu a'i guradu ar y cyd sy'n dangos safbwyntiau amrywiol ar hunaniaeth lle a thrawsnewid trefol
  • Traethawd gweledol a gyfrannodd at ddisgwrs academaidd ar fethodolegau adrodd straeon drwy gymryd rhan
  • Dwy arddangosfa wedi’u curadu a oedd yn dangos y gorau o waith ffotograffig y cyfranogwyr, un ym Mhafiliwn Grange ac un arall yn Adeilad Bute, cartref Ysgol Pensaernïaeth Cymru. Yn yr arddangosfeydd hyn, cafwyd y cyfle i greu deialog rhwng cyfranogwyr ifanc, myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, staff academaidd, aelodau'r gymuned a chyrff eraill â diddordeb

Creu effaith

Roedd effaith y prosiect yn ymestyn ymhell y tu hwnt i’r allbynnau creadigol i gynnwys:

  • Datblygu Sgiliau – Enillodd y sawl a gymerodd ran sgiliau adrodd straeon a ffotograffiaeth, gan eu galluogi i fynegi eu hunain a myfyrio’n feirniadol ar eu hamgylchedd trefol
  • Cydlyniant Cymunedol – Drwy ddod â phobl ifanc, myfyrwyr prifysgol a’r gymuned ehangach at ei gilydd, cryfhaodd y prosiect gysylltiadau cymdeithasol a deialog ar draws y cenedlaethau
  • Grymuso ac Asiantaeth – Cafodd y sawl a gymerodd ran yr hyder i fynegi eu naratifau a’u safbwyntiau eu hunain, gan feithrin mwy o ymdeimlad o berthyn a dylanwad dros eu cymuned leol

Camau nesaf

Wrth edrych ymlaen, bydd tîm y prosiect yn trin a thrafod effeithiau academaidd a pholisi posibl drwy gyfeirio at ddeunydd, partneriaethau ar y cyd a gweithgareddau cyfnewid gwybodaeth.

Mae’r tîm yn parhau i gynnal cysylltiadau â phartneriaid cymunedol yn Grangetown i asesu sut mae’r prosiect wedi dylanwadu ar y graddau maen nhw’n parhau i gymryd rhan yn y gwaith o adrodd straeon, ffotograffiaeth a chreu lleoedd yn ogystal ag ystyried ymchwil gymunedol ar y cyd.

Cysylltu

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn, cysylltwch â:

Picture of Rhiannon Marks

Dr Rhiannon Marks

Uwch Ddarlithydd a Chyfarwyddwr MA Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd

Telephone
+44 29208 75594
Email
MarksR@caerdydd.ac.uk
Picture of Nastaran Peimani

Dr Nastaran Peimani

Darllenydd mewn Dylunio Trefol
Cyd-gyfarwyddwr MA Dylunio Trefol
Arweinydd y Grŵp Ymchwil Trefoldeb

Telephone
+44 29208 75980
Email
PeimaniN@caerdydd.ac.uk
Picture of Siwan Rosser

Dr Siwan Rosser

Uwch Ddarlithydd a Chyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu

Telephone
+44 29208 76287
Email
RosserSM@caerdydd.ac.uk