Ffyrdd eraill o fyw
Datblygu rhwydwaith tai dan arweiniad y gymuned yng Nghymru.
Yng nghyd-destun argyfwng tai, costau byw a hinsawdd, mae'n rhaid ystyried dewisiadau tai eraill yng Nghymru. Mae gan dai dan arweiniad y gymuned hanes hir yn y DU, ond maen nhw’n wynebu heriau o ran ariannu, caffael tir a gorfod datblygu dewisiadau amgen sy'n parhau i fod yn fforddiadwy i genedlaethau'r dyfodol. Er mwyn cyflawni hyn, mae'n rhaid i nifer fawr o randdeiliaid fod ynghlwm wrth y gwaith ac mae ymdopi â’r cymhlethdod hwn yn her i ymgyrchwyr tai.
Ystyriodd y prosiect hwn botensial tai dan arweiniad y gymuned yn ddewis amgen radical a chynaliadwy ym maes tai yng Nghymru. Nod y prosiect oedd meithrin partneriaethau i gydweithio ar dair thema sy’n gyffredin i ddiddordebau ymchwil yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru a’r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, sef: manteision a fforddiadwyedd, tir a chyllid, a dylunio a llywodraethu.
Datblygu cyfleoedd ar gyfer cydweithredu ymchwil yn y dyfodol
Yn dilyn cyfres o weithdai, daeth y prosiect hwn â 28 o grwpiau a sefydliadau cymunedol ynghyd i drafod heriau a chyfleoedd sy’n ymwneud â’r themâu hynny er mwyn datblygu agenda cydweithio ar ymchwil yn y dyfodol. Cafodd y gweithdai hyn eu creu ar y cyd a’u hwyluso gyda Cwmpas (Canolfan Cydweithredol Cymru gynt) a Co-op Dan Do (grŵp o weithredwyr cymunedol lleol)
Yn sgil y prosiect, roedd modd creu perthynas ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd a sawl partner cymunedol, gan gynnwys grwpiau tai dan arweiniad y gymuned leol. Mae gan yr agenda ymchwil sy'n dod i'r amlwg gysylltiad agos â’r materion ymarferol brys, gan roi cyfarwyddiadau clir i ddatblygu a blaenoriaethu arbenigedd ein hymchwil er budd cymunedau.
Darllenwch ragor am ein gwaith i ddatblygu rhwydwaith tai dan arweiniad y gymuned yng Nghymru
Rydyn ni wrthi’n ceisio sicrhau rhagor o gyllid ar hyn o bryd i gryfhau’r rhwydweithiau presennol a chysylltu â sectorau eraill i ddatblygu rhwydwaith tai ehangach dan arweiniad y gymuned yng Nghymru, a throsti.
Cysylltu
I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn, cysylltwch â: