Rhoi prosiect 'Llwybr Xuanzang' ar waith
Datblygu teithiau cerdded treftadaeth, llwybrau twristiaeth a deunydd dysgu i hybu ymwybyddiaeth o dreftadaeth twristiaeth yn Bihar, talaith dlotaf India.
Yn 2019, cychwynnodd Cymdeithas Datblygu Treftadaeth Bihar (BHDS), y prosiect 'Llwybr Xuanzang' i olrhain safleoedd Bwdhaidd yn Bihar, lle tarddodd Bwdhaeth, a ddisgrifir yn nhestunau eiconig Xuanzang, y mynach Bwdhaidd o Tsieina.
Ardal hynafol Magadha hynafol, sef perfeddwlad Bwdhaeth, yw Bihar ac mae’n gyforiog o olion archaeolegol Bwdhaidd. Cyfunodd prosiect 'Llwybr Xuanzang' arbenigedd am safleoedd a grybwyllwyd yn nhestunau Xuanzang ag archaeoleg maes i greu seilwaith treftadaeth ar y cyd i hyrwyddo'r diwydiant twristiaeth yn nhalaith dlotaf India.
Cynyddu ymwybyddiaeth o dreftadaeth a hyrwyddo twristiaeth
O’r cam hwn yn y prosiect y deilliodd 'Llwybr Xuanzang' a oedd yn cynnwys datblygu teithiau cerdded treftadaeth, llwybrau i dwristiaid a deunydd gwybodaeth amlieithog yn seiliedig ar safleoedd a archwiliwyd yn ystod y prosiect.
Yn dilyn gweithdai, digwyddiadau cyhoeddus ac arddangosfeydd yn Amgueddfa Bihar, roedd y prosiect wedi helpu i sefydlu Llwybr Xuanzang yn un o'r prif rwydweithiau treftadaeth yn Bihar. Roedd wedi cydio yn nychymyg ymchwilwyr, cynrychiolwyr diwylliannol a gwleidyddol, y cyfryngau a'r cyhoedd i gynyddu ymwybyddiaeth o dreftadaeth a hybu refeniw twristiaeth y mae mawr ei hangen yn Bihar.
Llwybr Xuanzang yw man cychwyn chwyldro ym maes twristiaeth treftadaeth, gan gynyddu ymwybyddiaeth o safleoedd Bwdhaidd sydd heb eu defnyddio i raddau helaeth.
Lluniwyd posteri, mapiau a llyfrynnau ar dri safle archaeolegol a archwiliwyd yn ystod prosiect Llwybr Xuanzang yn Saesneg a Hindi i'w dosbarthu gan bartner y prosiect, Amgueddfa Bihar yn Patna.
Mae potensial y bydd rhanbarthau eraill yn India (e.e. Uttar Pradesh a safleoedd Bwdhaidd pwysig fel Sarnath, Kusinagara, Sravasti, Kausambi) yn dilyn esiampl Llwybr Xuanzang i greu llwybrau a theithiau treftadaeth yn seiliedig ar ddata ac ymchwil hanesyddol ac archaeolegol.
Cysylltu
I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn, cysylltwch â: