Prosiectau 2025
Rydyn ni’n cefnogi ystod o brosiectau arloesol sy'n gweithio gyda chymunedau a phartneriaid lleol a byd-eang i fynd i'r afael â materion iechyd, yr amgylchedd, addysg a'r economi.
Cefnogwyd y prosiectau gan y Cyfrif Sbarduno Effaith Wedi’i Chysoni a ariannwyd ganYmchwil ac Arloesi’r DU (UKRI) drwy law chwe Chyngor Ymchwil.
Nod y gronfa yw cefnogi ymchwil ac arloesi, treialu ffyrdd amrywiol ac arloesol o gefnogi diwydiant, byd polisi, ymgysylltu â'r cyhoedd a dyfnhau effaith prosiectau ymchwil a ariannwyd yn flaenorol.
Roedd y cylch hwn o brosiectau a ariannwyd yn cwmpasu ystod amrywiol o weithgareddau, yn eu plith datblygu adnoddau addysgol newydd i ysgolion yng Nghymru, ehangu’r cyfranogiad demograffig gan ddinasyddion mewn ymgyngoriadau gan gynghorau lleol, gwella ansawdd aer aelwydydd lleiafrifoedd ethnig yn ogystal â hybu ymwybyddiaeth o dwristiaeth a threftadaeth yn un o daleithiau tlotaf India.