Ewch i’r prif gynnwys

WasteReBuilt – dull cylchol o drawsnewid tywod gwastraff yn adnodd ar gyfer yr amgylchedd adeiledig

Cysylltu'r diwydiant metel bwrw a'r sector cynhyrchu concrit i ailgyfeirio tywod gwastraff o safleoedd tirlenwi.

Wrth weithredu egwyddorion yr economi gylchol, bu WasteReBuilt yn ceisio dangos bod tywod gwastraff ffowndri o’r diwydiant metel bwrw yn gallu cymryd lle hyd at 100% o’r tywod newydd sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio i wneud concrit ar hyn o bryd.

Drwy weithio gyda Weir Group Ltd a Dragon Alfa Cement Ltd, mae’r prosiect hwn yn datblygu ar astudiaethau treialu blaenorol gan yr Ysgol Peirianneg ac yn ôl yr astudiaeth, roedd defnyddio hyd at 100% o dywod gwastraff ffowndri mewn morteri sment yn cydymffurfio â safonau rheoleiddio, a ni chafodd unrhyw elfennau peryglus eu gollwng wrth i’r deunydd gyrraedd aeddfedrwydd. Roedd yna hefyd awgrym bod defnyddio tywod gwastraff ffowndri yn gwella perfformiad strwythurol cynhyrchion sment.

Bu’r tîm WasteReBuilt yn datblygu’r ymchwil hon mewn dwy brif ffordd:

  • Olrhain cyfansoddiad tywod gwastraff ffowndri yn erbyn lleoliadau ffowndrïau a gwaith castio i wneud cymhariaeth fanwl â thywod agreg mân confensiynol. Mae’r olrhain hwn bellach ar gael o dan y polisi mynediad agored, sy’n caniatáu diwydiannau eraill i ddefnyddio gwastraff tywod ffowndri yn eu prosesau, i ailgyfeirio rhagor o wastraff o safleoedd tirlenwi.
  • Mae gwastraff tywod ffowndri yn cymryd lle tywod mân agreg hyd at 100%. Profi'r samplau concrit hyn am eu cryfder, eu gwydnwch ac am unrhyw ollyngiad o halogyddion.

Roedd prosiect WasteReBuilt yn cynnwys arbenigwyr y diwydiant a llunwyr polisïau gyda’r nod o ddylanwadu ar bolisïau cyfredol ar reoleiddio a dylunio deunyddiau adeiladu. Cafodd rhanddeiliaid eu cynnwys drwy arolygon ar-lein a thrafodaethau yn y camau cyntaf o’r prosiect, a’u gwahodd i weithdy terfynol a gynhyrchodd adroddiad yn dangos tystiolaeth o’r buddion technegol ac amgylcheddol.

Mae’r prosiect wedi rhoi briffiau ar sail y dystiolaeth a’r defnyddwyr i Lywodraeth y DU, academyddion ac arbenigwyr y diwydiant i ddylanwadu ar benderfyniadau polisïau yn y maes, ac i godi ymwybyddiaeth ac effaith.

Yn y dyfodol, bydd y tîm yn gweithio gyda phartneriaid allweddol yn y diwydiant drwy bartneriaeth rhannu gwybodaeth neu drwy ysgoloriaeth PhD diwydiannol i lunio a datblygu prawf ar safle yn y byd go iawn i brofi effeithiolrwydd y deunyddiau a gynhyrchwyd ymhellach.

Picture of Riccardo Maddalena

Dr Riccardo Maddalena

Cyfarwyddwr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Telephone
+44 29208 76150
Email
MaddalenaR@caerdydd.ac.uk