Archif y Llinosod Gwyrddion: Rhannu straeon y milwyr benywaidd ar y rheng flaen
Ailddweud y rhan a chwaraeodd milwyr benywaidd ar y rheng flaen yn ystod y Trafferthion yng Ngogledd Iwerddon.
Ar y cyd ag Amgueddfa Gatrodol Gyfunol y Gatrawd Frenhinol Iwerddon ym Melffast, gwnaeth y prosiect hwn gyd-greu arddangosfa ddigidol wedi’i churadu i ddatguddio hanes milwyr benywaidd Catrawd Amddiffyn Ulster a fuodd ar y 'rheng flaen' yn ystod y Trafferthion yng Ngogledd Iwerddon. Fe wnaeth y prosiect dynnu ar archifau heb eu defnyddio’n ddigonol er mwyn ailddweud yn weledol hanes cyfraniad y milwyr benywaidd yn yr ymgyrch hon.
Gan dynnu ar ymchwil a wneir gan Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, mae stori milwyr benywaidd yng Ngogledd Iwerddon yn herio'r gamdybiaeth mai dim ond yn ddiweddar y caniatawyd i fenywod fod yn filwyr ar y 'rheng flaen'. Rhoddwyd yr hawl i fenywod ymuno â Chatrawd Amddiffyn Ulster (UDR) ym 1973, a daethant hwy’n adnabyddus o dan yr enw 'Y Llinosod Gwyrddion' (‘Greenfinches’). Roedd unedau milwrol a fu’n gweithredu yng Ngogledd Iwerddon wedi nodi’r angen tactegol am osod menywod i fod yn chwilwyr, holwyr a thwyllwyr, a hynny o gychwyn yr ymgyrch.
Mae straeon y milwyr benywaidd yn datguddio’r tensiwn rhwng angen a naratif - gosodwyd menywod mewn perygl personol drwy beidio â'u harfogi wrth iddyn nhw batrolio hyd y 'rheng flaen'. Gwnaed hyn er mwyn cynnal y deinameg pŵer ynghylch rhywedd a oedd yn dibynnu ar y syniad mai nad ymosodol oedd menywod. Mewn naratifau am ymgyrchoedd milwrol a hanesion cyhoeddus, mae lleisiau menywod wedi cael eu gwthio i'r cyrion drachefn a thrachefn. Mae eu lleisiau'n bwysig i ail-ystyried y 'rheng flaen' yn rhywle lle mae menywod wedi bodoli, lle mae menywod yn bodoli ar hyn o bryd, a lle y gall menywod fod.
Cafodd arddangosfa ddigidol a grëwyd ar y cyd, sy’n cynnwys eitemau o archif y Llinosod Gwyrddion, ei dangos yn oriel filwrol rithwir Catrawd Frenhinol Iwerddon, a hynny’n rhan o arddangosfa dros dro yn Amgueddfa Frenhinol Reiffls Ulster ym Melffast. Roedd yr arddangosfa wedi cynnig bwrdd seinio diwylliannol, gan herio rhagdybiaethau sydd wedi’u gwreiddio’n ddwfn ynghylch natur ryweddol rhyfel. Gan ddwyn ynghyd tystebau gan leisiau nas clywyd o'r blaen, fe heriwyd y naratif gwrywaidd prif ffrwd wrth wraidd yr ymgyrch hon, a cheisio unioni’r fantol o ran rôl menywod mewn sefydliadau parafilwrol.
Gwnaeth y prosiect herio aelodau’r cyhoedd i gwestiynu’r naratif prif ffrwd wrth galon y gwrthdaro hwn drwy gyflwyno lleisiau menywod er mwyn gallu adrodd stori anghofiedig sy’n eu gosod ar y ‘rheng flaen’. Cafodd aelodau'r cyhoedd eu gwahodd i ymgysylltu â straeon y Llinosod Gwyrddion er mwyn herio rhagdybiaethau.
Y gobaith yw y bydd y prosiect yn hwyluso cyfleoedd i gydweithio â phartneriaid yn y dyfodol i geisio datblygu ceisiadau am gyllid i ymgymryd â phrosiect ar hanesion llafar y Llinosod Gwyrddion.