Ewch i’r prif gynnwys

Deialog sy’n pontio’r cenedlaethau ar iechyd a hawliau rhywiol ac atgenhedlol merched yn Benin

Hyrwyddo deialogau iach ar iechyd a hawliau rhywiol ac atgenhedlol ymysg merched a'u rhoddwyr gofal.

Mae Plan International yn dilyn bywydau 118 o ferched sy'n byw mewn naw gwlad, ar draws tri chyfandir, o'u genedigaeth yn 2006, hyd nes iddyn nhw droi'n 18 oed yn 2024. Mae data hydredol ac ansoddol yr astudiaeth Real Choices, Real Lives yn ei gosod mewn sefyllfa unigryw i allu mynd i wraidd profiadau merched a'u teuluoedd wrth iddyn nhw bontio  o blentyndod i lencyndod mewn byd rhyweddol. Mae'r astudiaeth yn cynnig tystiolaeth werthfawr ar realiti’r merched er mwyn llywio gwaith llunio polisi ar lefel fyd-eang a chenedlaethol. Mae'r ymchwil hon yn dod â lleisiau merched i'r amlwg, gan gefnogi’r ystadegau ar gael, y damcaniaethau a’r trafodaeth academaidd i gwestiynu sut mae normau cymdeithasol a rhyweddol yn effeithio ar fywydau merched gydol eu hoes.

Rhaglenni radio byr

Gan dynnu ar ddadansoddiadau o brofiadau merched a'u rhoddwyr gofal sy'n rhan o’r astudiaeth hydredol hon yn Benin, Gorllewin Affrica, roedd Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth wedi cyflwyno cyfres o raglenni radio byr i sbarduno deialog gymunedol rhwng y cenedlaethau ar Iechyd a Hawliau Rhywiol ac Atgenhedlol Merched (SRHR).

Yn bennaf, caiff addysg SRHR ei hystyried yn strategaeth liniaru risg at ddibenion atal beichiogrwydd diangen, osgoi heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, a phrofi trais ar sail rhywedd. Nid yw lles rhywiol merched wedi’i gynnwys yn yr addysg hon. Mae'r dystiolaeth ymchwil yn argymell gwneud mwy i gefnogi SRHR. Gan dynnu ar arbenigedd Plan International, mae’r prosiect hwn wedi cefnogi a normaleiddio deialog iach rhwng sy’n pontio’r cenedlaethau drwy gynnig rhaglenni addysg ar lefel gymunedol.

Gweithdai ysgrifennu sgriptiau

Roedd pobl ifanc o ddwy gymuned yn Benin wedi cymryd rhan mewn gweithdai ysgrifennu sgriptiau, ac wedi helpu i gyd-gynhyrchu'r sioeau radio, wedi'u llywio gan safbwyntiau’r merched eu hunain. Roedd y rhaglenni radio wedi cyflwyno deialogau iach ar iechyd a hawliau rhywiol ac atgenhedlol (SRHR) rhwng merched a'u gofalwyr ac wedi’u normaleiddio, gan sbarduno deialog rhwng y cenedlaethau. Fe wnaeth y cyflwynwyr radio hwyluso trafodaeth bellach gydag aelodau o’r gymuned a ymunodd â’r sioe dros y ffôn drwy linell gymorth leol ar ôl y darllediad.

Cafodd nodiadau cyfarwyddyd eu creu i amlinellu'r dull a ddefnyddiwyd yn y prosiect peilot hwn, y prif wersi a ddysgwyd, ac argymhellion ar sut y gellir cynllunio a gweithredu ymyriadau tebyg sy'n cael eu hysgogi gan dystiolaeth mewn mwy o gymunedau. Lawrlwythwch y ddogfen Turning evidence into practice: Insights from qualitative research and community radio programming with girls on SRHR in Benin.

Roedd y prosiect hwn yn nodi'r ymdrech gyntaf i Plan International ymgorffori canfyddiadau Real Choices, Real Lives yn uniongyrchol mewn rhaglen ymyrraeth yn y gymuned.

Ymyriadau pellach

Mae gan y prosiect hwn botensial i gael ei dreialu ar gyfer ymyriadau pellach sy’n seiliedig ar ganfyddiadau ymchwil, a hynny ledled y gwledydd eraill sy'n cymryd rhan, ac yn eu plith y mae Togo, Uganda, Cambodia, Fietnam, Y Philipinau, El Salvador, Gweriniaeth Dominica, a Brasil.

Picture of Rosie Walters

Dr Rosie Walters

Uwch Ddarlithydd mewn Cysylltiadau Rhyngwladol

Telephone
+44 29206 88594
Email
WaltersR13@caerdydd.ac.uk