Deialogau Treftadaeth Gynhwysol: Cyfnewid Gwybodaeth ac Effaith
Cynyddu gwelededd a’r gallu i gyrchu platfform treftadaeth gymunedol digidol yn Uganda
Yn rhan o ymchwil barhaus wedi’i hariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau a'r Gronfa Ymchwil Heriau Byd-eang, fe wnaeth Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ddatblygu platfform digidol er mwyn symud treftadaeth yn Uganda o'r amgueddfa i’r gymuned (OMIC). Mae’r platfform yn cynnig man lle gall pobl sydd yn aml ddim yn cael eu cynnwys mewn mannau treftadaeth traddodiadol a naratifau’r gorffennol (menywod, pobl ag anableddau, poblogaethau gwledig a phobl ifanc) gymryd rhan mewn ffordd ddiogel.
Mewn cymdeithas sy’n ceisio adfer ar ôl rhyfela, mae rhoi’r cyfle i bobl siarad yn rhydd am anghyfiawnderau a thrais yn y gorffennol yn gam pwysig tuag at gyflawni heddwch a chymod. Mae OMIC yn adeiladu ar yr ymchwil hon trwy ymgysylltu â phobl ag arteffactau treftadaeth gan ddefnyddio platfform digidol, a hynny er mwyn gwella’r gallu i ddysgu am dreftadaeth Uganda, a’i thrafod, mewn cymunedau sydd yn aml yn cael eu hymyleiddio’n gymdeithasol, yn economaidd ac yn ddaearyddol.
Fe wnaeth y prosiect hwn hyrwyddo cyfnewid gwybodaeth yn rhyngwladol, gan ymgysylltu â llunwyr polisi, ymarferwyr treftadaeth ac academyddion i gynyddu gwelededd y platfform digidol, y ddealltwriaeth ohono, a’i wydnwch, a'i ymgorffori yng ngwaith cyfiawnder trosiannol a gwneud iawn yn Uganda.
Cafodd dau weithdy eu cynnal ar y cyd ag Amgueddfa Cymru a Phrifysgol Lira, Uganda gan ddod ag artistiaid, gweithredwyr, academyddion, ymarferwyr treftadaeth a llunwyr polisi ynghyd. Roedd y gweithdai yn cynnig cyfle i ddysgu am blatfform digidol OMIC a meddwl yn feirniadol am arfer treftadaeth gynhwysol mewn gwahanol gyd-destunau cenedlaethol ôl-drefedigaethol. Nod gweithdy Uganda, ochr yn ochr ag Amgueddfa Uganda yn Kampala, oedd sicrhau bod OMIC yn rhan o fentrau newid cenedlaethol, yn llywio’r ffordd y mae’r cwricwlwm cyfiawnder trosiannol yn cael ei ddylunio, ac yn elfen graidd o'r gwaith i ymestyn a chofnodi profiadau bywyd o'r gorffennol i bawb.
Roedd y prosesau hyn, ac yn benodol platfform digidol OMIC, wedi cael effaith drwy ysgogi newidiadau i arfer curadurol, newidiadau yn y ffyrdd y mae pobl yn dehongli eu gorffennol ac yn sail i symudiadau tuag at heddwch a chyfiawnder.