Datblygu adnoddau canllawiau ar gyfer ôl-osod systemau ynni llawn er mwyn annog cynnydd tuag at Sero Net
Gweithio gyda phartneriaid i gynyddu gwybodaeth a hyder mewn ôl-osod systemau ynni ar draws y sector tai.
Mae angen mynd i’r afael â lleihau allyriadau carbon mewn tai preswyl ar frys i helpu cyrraedd y nod o fod yn sero net ac i gyrraedd targed Llywodraeth Cymru o leihau allyriadau carbon cyffredinol i 95%.
Dros y 12 mlynedd diwethaf, mae Ysgol Pensaernïaeth Cymru wedi bod yn casglu tystiolaeth i wella sut mae prosiectau ôl-osod systemau ynni’n cael eu dylunio a’u cyflawni. Maen nhw wedi profi eu methodoleg 'tŷ cyfan', sy'n cyfuno technolegau galwad, storio a chyflenwad, mewn mwy na 30 o dai. Fe wnaeth hyn arwain at ostyngiad o 80% mewn allyriadau carbon, yn ogystal â lleihau biliau ynni o hyd at 75%.
Er gwaethaf y manteision amlwg hyn, mae angen anogaeth o hyd ar berchnogion tai a landlordiaid i osod y technolegau hyn. Rodd y prosiect yn ceisio mynd i’r afael â hyn drwy ddwyn ynghyd y dystiolaeth sydd eisoes yn bodoli mewn ffordd ddiddorol, ac i’r rhai sy’n ymwneud ag ôl-osod gael defnyddio’r dystiolaeth i sicrhau bod prosiectau’r dyfodol yn gallu cael eu cyflawni’n fwy effeithlon ac yn gywir.
Bu ymchwilwyr yn gweithio gyda phartneriaid y sector cyhoeddus a’r trydydd sector gan gynnwys Tai Wales & West, Cyngor Abertawe, Cyngor Castell-nedd Port Talbot a’r Sefydliad Siartredig Tai i gynnal arolwg ar-lein o’r sector tai ehangach i gael adborth ac i ddysgu o fentrau blaenorol. O ganlyniad i hyn, datblygwyd ystod o adnoddau canllawiau i gynyddu gwybodaeth a hyder y rhai sy’n ymwneud ag ôl-osod systemau ynni.
Mae’r adnoddau hyn wedi cael eu rhannu â nifer o gynlluniau ôl-osod mawr yn y DU megis y Cynllun Ôl-osod er mwyn optimeiddio gwerth £220 miliwn yng Nghymru, a chynllun Llywodraeth y DU datgarboneiddio tai cymdeithasol gwerth £3.8 biliwn, yn ogystal â UK100, y Gymdeithas Llywodraeth Leol a’r Sefydliad Siartredig Tai.
Mae mwy o wybodaeth ymhlith partneriaid yn dwyn hyder yn y sector i fuddsoddi, ac o ganlyniad yn helpu arwain tuag at sero net a chynnig stoc tai sy’n fwy cyfforddus ac o ansawdd gwell ac i helpu lleihau biliau ynni i denantiaid.
Yr Athro Joanne Patterson
Cymrawd Ymchwil Athrawon, Cyfarwyddwr Ymchwil