Darllen Hunaniaethau
Gweithio gydag athrawon Cymraeg mewn ysgolion uwchradd i gyd-gynhyrchu adnoddau addysgol i drafod hunaniaethau mewn testunau llenyddol o fewn yr ystafell dosbarth.
Mae’r prosiect hwn yn seiliedig ar ymchwil flaenorol a gynhaliwyd dan arweiniad Ysgol y Gymraeg i ymchwilio i addysgeg dehongli llenyddiaeth yng nghyd-destun amrywiaeth a chynhwysiant, ac i ddatblygu cysylltiadau ag athrawon Cymraeg mewn ysgolion uwchradd a phartneriaid allanol, gan gynnwys CBAC a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Cafodd adolygiad llenyddol a llyfryddiaeth anodedig eu creu, a chydag athrawon, fe gynhaliwyd gweithdai ymarferol ar ddarllen hunaniaethau mewn testunau llenyddol, yn ogystal â mynd i wraidd themâu rhywedd, rhywioldeb a chenedligrwydd yn y testunau hynny.
Dangosodd yr adborth fod athrawon yn teimlo’n fwy hyderus i fynd i’r afael â’r pynciau hyn yn sgîl y gweithdai. Y prif argymhelliad a nodwyd gan athrawon oedd yr angen i ddatblygu deunyddiau addysgol y gellid eu defnyddio yn y dosbarth.
Ochr yn ochr â phartneriaid ac athrawon Cymraeg mewn ysgolion uwchradd, datblygwyd cyfres o adnoddau a chynlluniau gwersi. Cyflwynwyd i athrawon amryw ddulliau o ddehongli beirniadol i 'ddarllen hunaniaeth' mewn llenyddiaeth Gymraeg. Roedd y prosiect wedi cael dylanwad cadarnhaol ar hyder, gwybodaeth a pharodrwydd y sawl fu’n rhan ohono i gynnwys mwy o amrywiaeth yn y maes llafur.
Yn amodol ar gael rhagor o gyllid, bydd yr adnoddau yn llywio datblygu pecyn cymorth cenedlaethol, ac a fydd â phwyslais ar ystyried hunaniaethau amrywiol a sbarduno trafodaethau ystyrlon ar hunaniaethau.
Mae gan allbynnau’r prosiect y potensial hefyd i ddylanwadu ar y penderfyniadau cwricwlaidd a’r meysydd llafur o ran y newidiadau arfaethedig i gymwysterau TGAU Cymraeg Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg (o 2025 ymlaen).
Dr Rhiannon Marks
Uwch Ddarlithydd a Chyfarwyddwr MA Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd