Adnodd addysgol creadigol i rannu straeon cleifion go iawn gyda myfyrwyr gofal llygaid: rhoi elfen dynol i ofal iechyd
Rhannu straeon iechyd meddwl go iawn gan bobl sydd â phrofiad o fyw â nam ar y golwg gyda myfyrwyr gofal llygaid proffesiynol dan hyfforddiant.
Erbyn 2030, bydd 2.7 miliwn o bobl yn y DU yn dioddef o nam ar y golwg na ellir ei drin, yn bennaf oherwydd cyflyrau llygaid sy'n gysylltiedig â henaint. Mae colli golwg yn anabledd sylweddol, sy'n gysylltiedig â cholli annibyniaeth ac ynysigrwydd cymdeithasol. O ganlyniad, mae nifer yr achosion o iselder a gorbryder yn uchel yn y boblogaeth hon, ond yn aml nid yw’r achosion hyn yn cael eu hadnabod ac nid ydyn nhw’n cael eu trin. Mae hyn yn aml yn arwain at ganlyniadau adsefydlu gwael.
Dangosodd ymchwil flaenorol gan yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau’r Golwg fod nifer yr achosion o iselder ymhlith cleifion y DU â nam ar eu golwg ymhlith yr uchaf ar gyfer unrhyw grŵp cleifion (43%) – gan gynnwys y rhai sydd â chanser – ac nid oedd 75% o’r rhai ag iselder yn cael unrhyw ofal. Dangosodd canfyddiadau’r arolwg yr angen i sefydlu llwybr gofal integredig ar gyfer poblogaeth nad oedd wedi cael llawer o gymorth iechyd meddwl ffurfiol yn flaenorol.
Un o ganfyddiadau allweddol yr ymchwil oedd bod gweithwyr gofal llygaid proffesiynol yn amharod i drafod iechyd meddwl, yn rhannol oherwydd nad oedden nhw’n ei ystyried yn rhan o’u rôl neu hyfforddiant craidd. Dangosodd hyn yr angen i ymgorffori addysg ar effaith seicolegol colli golwg a llwybrau cymorth yn gynharach yn rhan o addysg israddedig ac ôl-raddedig.
Ariannodd y prosiect peilot hwn y gwaith o gynhyrchu adnodd addysgol creadigol i'w rannu â myfyrwyr gofal llygaid mewn saith sefydliad addysg uwch ledled y DU (ee optometreg, optegydd dosbarthu, myfyrwyr orthopteg). Cafodd cyfres o glipiau ffilm byr eu cynhyrchu sy’n rhannu straeon go iawn gan bobl â phrofiad o fyw â nam ar y golwg, gan esbonio sut yr effeithiodd colli golwg ar eu hiechyd meddwl a'u lles.
Ymhlith partneriaid y prosiect oedd Prifysgol Anglia Ruskin, CamSight, Prifysgol Huddersfield, Prifysgol Aston, Prifysgol Ulster, Prifysgol Manceinion, NHS Education for Scotland a Film4.
Dangosodd gwaith gwerthuso fod arweinwyr cwrs yn teimlo eu bod yn gallu cyfiawnhau mynd i'r afael ag iechyd meddwl, a’u bod yn hyderus yn wneud hynny, wrth gyflwyno straeon go iawn gydag elfen dynol. Roedd gan fyfyrwyr ddealltwriaeth well o sut y gall byw gyda cholled golwg effeithio ar les cyffredinol person, gan gynyddu eu hyder i fynd i’r afael ag iechyd meddwl, ac roedd ganddyn nhw ddealltwriaeth well o’r llwybrau atgyfeirio a’r cymorth sydd ar gael iddyn nhw.
Mae’r ffilm addysg greadigol a’r adnoddau dysgu wedi’u rhannu â’r 15 o brifysgolion addysg uwch eraill sy’n addysgu gofal llygaid, gan sicrhau bod pobl â nam ar eu golwg yn cael eu cydnabod yn well gan eu hymarferydd gofal llygaid yn rhai sy’n profi llesiant meddwl gwael - gan arwain at atgyfeiriadau ar gyfer cymorth priodol a gwella gofal a chanlyniadau adsefydlu.
Dr Claire Nollett
Cymrawd Ymchwil ac Arweinydd Academaidd ar gyfer Cynnwys ac Ymgysylltu â'r Cyhoedd