Ewch i’r prif gynnwys

Peilot Hyfforddiant Arbenigol Archaeoleg Gymunedol

Cyflwyno hyfforddiant i wella sgiliau a llesiant y rhai sy'n ymwneud ag archaeoleg gymunedol.

Mae dros 200,000 o bobl yn y DU yn cymryd rhan mewn grwpiau archaeoleg cymunedol bob blwyddyn, sy’n rhoi hwb i’w lles, eu sgiliau a’u cysylltiadau cymdeithasol. Nododd arolwg gan Gyngor Archaeoleg Prydain fod llawer o gyfranogwyr heb ddigon o hyfforddiant i gyflawni eu llawn botensial, gan leihau ansawdd ac effaith ymchwil a phrofiadau sy’n cael eu harwain gan y gymuned. Adnabod Darganfyddiadau oedd eu hangen hyfforddiant mwyaf cyffredin yn ôl yr arolwg.

Aeth y prosiect peilot hwn i'r afael â'r bwlch sgiliau trwy gynnig hyfforddiant a oedd wedi'i integreiddio ag ymchwil archeolegol weithredol. Dan arweiniad yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd, cafodd gwirfoddolwyr eu hyfforddi i adnabod darganfyddiadau archeolegol cyffredin megis esgyrn anifeiliaid a chrochenwaith o gloddiad gweithredol yng nghysegrfa Rufeinig o arwyddocâd cenedlaethol yn Stad Teffont Evias, Wiltshire, ochr yn ochr ag arbenigwyr archaeolegol proffesiynol.

Ymhlith partneriaid y prosiect oedd Amgueddfa Wiltshire, Grŵp Maes Archaeoleg Wiltshire, sŵarchaeolegydd llawrydd, Wessex Archaeology Ltd ac Ystad Teffont Evias.

Cafodd gwirfoddolwyr eu harolygu cyn ac ar ôl cymryd rhan er mwyn iddyn nhw hunanasesu y gwahaniaeth yn eu sgiliau, lles a chysylltiadau cymdeithasol. Gwellodd y prosiect gysylltiadau cymdeithasol, lles, gwytnwch a’r proses o rannu sgiliau ymhlith nifer o grwpiau archaeoleg cymunedol.

Mae cynaliadwyedd ac effaith hirdymor y prosiect hwn wedi'u sicrhau trwy sefydlu mentrau hyfforddiant, arddangosfa gymunedol wedi'i churadu ar y cyd, digwyddiadau cymunedol blynyddol, a chynnig cyfleoedd gwirfoddoli i dros 1,000 o bobl. Mae tri o’r sawl sydd wedi cymryd rhan yn y prosiect wedi dechrau gradd mewn archaeoleg o ganlyniad i ymgymryd â lleoliad ar gyfer pobl ifanc 16-18 oed, ac mae llawer o’r sawl sydd wedi cymryd rhan yn y prosiect wedi dechrau gwirfoddoli ym maes archaeoleg, neu wedi parhau i wneud hynny. Mae nifer o’r sawl a gymerodd rhan wedi mynd ymlaen i wneud ymchwil annibynnol.

Bydd data o'r prosiect peilot hwn yn cael eu defnyddio mewn cais dilynol i ddatblygu pecyn cymorth ar gyfer cyflwyno'r model hyfforddiant, a hynny i ehangu'r prosiect er mwyn cael rhagor o adborth gan y sawl sy’n cymryd rhan yn y prosiect ledled y DU.

Picture of Robert Heimburger

Dr Robert Heimburger

Darlithydd mewn Moeseg a Diwinyddiaeth Gristnogol

Email
Heimburger@caerdydd.ac.uk