Ewch i’r prif gynnwys

Y tu hwnt i ysgrifennu carchardai: llenyddiaeth ar lawr gwlad er cyfiawnder ym Mecsico

Profi pŵer ysgrifennu i greu cymuned a mynd i'r afael ag anghyfiawnder

Roedd ymchwil flaenorol gan yr Ysgol Ieithoedd Modern (Ysgrifennu Carchardai America Ladin) wedi amlygu gwerth ysgrifennu carchardai, i'r rheiny sy'n ymwneud yn uniongyrchol â nhw, ond hefyd i’r gymuned ehangach a'r system gyfiawnder. Yn ogystal â hybu hyder, datblygu sgiliau llythrennedd, a chynnig cyswllt ystyrlon â'r byd y tu allan, mae ysgrifennu carchardai yn ffynhonnell bwysig sy’n cyfleu gwybodaeth a syniadau ar faterion megis diddymiaeth garchardai a ffurfiau amgen o gyfiawnder.

Roedd y prosiect hwn wedi adeiladu ar ganfyddiadau ymchwil cynharach, drwy ddatblygu gweithdai a gafodd eu cynnal gan gyhoeddwyr ar lawr gwlad gyda phrofiad o weithio â charcharon a chymunedau wedi’u heffeithio gan faterion ynghylch cyfiawnder troseddol:

  • 'Cartonero El Viento a La Rueda Cartonera' (dau gyhoeddwr cardfwrdd yn Guadalajara)
    Dosbarthu ysgrifennu carchardai cyfredol o dalaith Jalisco, sefydlu erthygl olygyddol dan arweiniad cyn-garcharorion, a hwyluso trafodaeth ar ddiddymu carchardai yng nghwmni unigolion a fu’n garcharon yn y gorffennol yn ninas Guadalajara.
  • 'La Colectiv Editorial Hermanas en la Sombra' (Y Gydweithfa Olygyddol o Chwiorydd yn y Cysgodion)
    Dyma gydweithfa dan arweiniad menywod a fu’n garcharon yn y gorffennol er mwyn casglu straeon mamau unigolion sydd wedi 'diflannu' yn nhalaith Morelos.

O ganlyniad i’r gweithgareddau hyn, mae llyfrau a gyd-ysgrifennwyd wedi cael eu cyhoeddi a’u harddangos mewn gwyliau megis Ffair Lyfrau Ryngwladol Guadalajara, gan gyfrannu at drafodaeth bwysig ar faterion cyfiawnder troseddol ym Mecsico. Mae tystiolaeth o effaith gadarnhaol y broses ar y rhai sydd ynghlwm i’w gweld drwy dystebau a holiaduron ‘cyn ac ar ôl’ gyda’r unigolion a fu’n bresennol yn y gweithdai, yn ogystal â chydag arweinwyr y gweithdai, y cyhoeddwyr a gweithwyr y system carchardai.

Yn bwysig, mae’r prosiect hefyd wedi cael effaith ar bolisïau adsefydlu yn system garchardai Jalisco, yn enwedig drwy bolisi ‘Segunda Oportunidad’ (ail gyfle) sy’n defnyddio gweithgareddau celfyddydol yn rhan o raglen i ailintegreiddio carcharon i’r gymdeithas, lle gall carcharorion gael eu dedfrydiadau wedi’u lleihau drwy gymryd rhan ynddyn nhw.

Picture of Joey Whitfield

Dr Joey Whitfield

Uwch Ddarlithydd mewn Astudiaethau Sbaenaidd

Telephone
+44 29225 10112
Email
WhitfieldJ1@caerdydd.ac.uk