Ewch i’r prif gynnwys

Archif Bert Hardy: Datgelu Casgliad wedi’i seilio ar Ffotonewyddiadurwr i Gymunedau, Diwylliant, a Phartneriaethau Newydd

Gweddnewid ymchwil, addysg a rhyngweithio â’r cyhoedd drwy archifau a chasgliadau arbennig ym Mhrifysgol Caerdydd.

Ffotograffydd dylanwadol i’r wasg a dogfennu’r gymdeithas, a aned yn Llundain, oedd Ben Hardy (1913-1995). Yn ystod ei yrfa ddigyffelyb, roedd Hardy yn ffotograffydd a ohebodd ar frwydrau, ac yn ffotograffydd hysbysebion hefyd – boed hynny drwy dynnu lluniau ar gyfer y newyddion a gemau chwaraeon, neu’n ddyn camera a ddogfennodd frwydrau, roedd yntau’n ffotonewyddiadurwr enwog i Picture Post ac yn entrepreneur llwyddiannus ym maes hysbysebu. Caiff ei ddathlu am ei ddarluniadau trawiadol o fywyd beunyddiol ar hyd a lled Prydain, gan gynnwys y cymunedau bywiog yn ninas amlddiwylliannol Llundain a Tiger Bay yng Nghaerdydd.

Mae archif y ffotonewyddiadurwr enwog hwn o Brydain bellach dan oruchwyliaeth Casgliadau Arbennig ac Archifau ym Mhrifysgol Caerdydd, diolch i Ystâd Bert Hardy. Mae'r archif yn cynnwys dros 100 o drysorau, gan gynnwys bathodynnau’r wasg, gohebiaeth, dyddiaduron a chyhoeddiadau gwreiddiol, yn ogystal ag offer camera.

Dan arweiniad yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, gwnaeth y prosiect hwn sicrhau bod y casgliad pwysig hwn wedi dod i’w feddiant drwy sortio, catalogio, digideiddio, a chreu disgrifiadau bychain o’r eitemau yn archif Bert Hardy.  Mae hyn oll yn sicrhau bod modd rhannu’r archif yn fyd-eang drwy Archives Hub JISC (sef platfform ar-lein sy’n rhoi mynediad at archifau mewn mwy na 380 o sefydliadau yn y DU), yn ogystal ag Archive Portal Europe.

Am y tro cyntaf, gwnaeth y prosiect hwn gynnig cofnod cyhoeddus o ddaliadau'r ffotonewyddiadurwr enwog hwn, a ddogfennodd fywyd ym Mhrydain ac o amgylch y byd yng nghanol yr ugeinfed ganrif. Mae'n cynnig modd i guraduron, addysgwyr ac aelodau'r cyhoedd gael mynediad at y deunydd hanesyddol pwysig hwn a oedd gynt yn cael ei ddal yn breifat, heb ei gatalogio a ddim ar gael i’r cyhoedd.

Bydd cael y casgliad yn cryfhau cyfraniad y brifysgol at arddangosfa arfaethedig Amgueddfa Cymru yn 2025 a fydd yn adrodd hanes Picture Post ochr yn ochr â daliadau presennol yn y Casgliadau Arbennig.

Picture of Tom Allbeson

Dr Tom Allbeson

Darllenydd (Cyfryngau a Hanes Ffotograffig)

Telephone
+44 29225 10780
Email
AllbesonT@caerdydd.ac.uk