Ewch i’r prif gynnwys

Nid yw Popeth yn Iawn: Eirioli dros bobl ag anableddau ym Mwlgaria

Maniffesto dros Newid i eirioli dros bobl ag anableddau ym Mwlgaria, a’r rhai sy’n gofalu amdanyn nhw neu’n eu cefnogi.

Ers 2012, mae ymgyrchwyr anabledd ym Mwlgaria, gan gynnwys rhieni sydd â phlant anabl, wedi protestio yn erbyn y cyflymder araf y mae diwygio’r isadeiledd materol a sefydliadeiddio’n digwydd. Mae ymgyrchwyr yn galw am newid yn yr arferion o asesu anableddau meddygol sydd wedi dyddio, ac am gyflwyno deddfwriaeth ar gymorth personol wedi'i llywio'n briodol gan fodel cymdeithasol o anabledd.

Dan arweiniad yr Ysgol Ieithoedd Modern, ac yn adeiladu ar brosiectau blaenorol Nid yw Popeth yn Iawn a wnaeth roi cyhoeddusrwydd i ddigartrefedd a gofalu heb eu gwerthfawrogi, roedd y prosiect hwn ar y cyd â Phrifysgol Sofia a Phrifysgol Plovdiv, wedi eirioli dros lu o sefydliadau anabledd ac elusennau i gael effaith ar bolisïau meddygol sydd wedi dyddio ac ymagweddau sy'n fwy cyffredin ym Mwlgaria a thu hwnt. Mae'r gwaith yn bwysig achos bod ansawdd bywyd yn cael ei gyfyngu gan ddiffyg cynnydd tuag at gydraddoldeb o ran anabledd ac yn rhwystro dyheadau pobl anabl i fyw'n annibynnol.

Fe wnaeth y prosiect gofnodi amryw o safbwyntiau a phrofiadau beunyddiol pobl anabl mewn mwy na 20 o gyfweliadau. Cafodd artistiaid o Fwlgaria a’r DU eu comisiynu i gynrychioli’r naratifau hyn mewn ffotograffau a chomics i’w harddangos mewn orielau ym Mwlgaria ac yn Oriel y Gweithwyr yn Ynyshir.  Mynnwch gip ar y comic ar-lein.

Hefyd, rhoddwyd i ymgyrchwyr a rhanddeiliaid becyn cymorth eirioli newydd – sef Maniffesto dros Newid cryno a darluniadol. Roedd yr adnodd newydd hwn wedi galluogi i ymgyrchwyr a rhanddeiliaid ynghylch anabledd ailddatgan eu hawliad i’r agenda hawliau ac i lobïo, gan gyflwyno’r achos dros newid yn y rhagdybiaethau o amgylch anabledd ym Mwlgaria a’r DU.

No picture for Ryan Prout

Dr Ryan Prout

Darllenydd mewn Astudiaethau Sbaenaidd

Telephone
+44 29208 76258
Email
ProutR@caerdydd.ac.uk