Prosiectau 2023
Gyda chefnogaeth trwy'r Cyfrif Cyflymu Effaith Cytûn, a ariennir gan Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI) drwy chwe Chyngor Ymchwil, gwnaethom gyflawni amrywiaeth o brosiectau arloesol a oedd yn gweithio gyda chymunedau a phartneriaid lleol a byd-eang i fynd i'r afael â materion sy'n ymwneud ag iechyd, yr amgylchedd, addysg a'r economi.
Nod y gronfa yw cefnogi ymchwil ac arloesi, a threialu ffyrdd amrywiol ac arloesol o gefnogi diwydiant, polisi ac ymgysylltu â'r cyhoedd.
Roedd ein prosiectau a ariennir yn ymdrin ag ystod amrywiol o weithgareddau o fentrau lles ysgolion lleol a mentrau lles a ddatblygwyd yn y gymuned, darparu hyfforddiant archaeoleg gymunedol, i straeon darluniadol i helpu ffoaduriaid ifanc, a hyrwyddo prosiectau ysgrifennu ar lawr gwlad sy'n mynd i'r afael â phroblemau cyfiawnder troseddol ym Mecsico.