Gwerthoedd a rhinweddau mewn byd heriol
Diwrnod o athroniaeth gyhoeddus i ddatblygu ymatebion polisi i heriau cymdeithasol.
Mae newid yn yr hinsawdd, pandemigau firysol a thechnoleg sy'n newid yn gyflym oll yn heriau cymdeithasol sylweddol ac anrhagweladwy. Beth yw'r gwerthoedd a'r rhinweddau y dylen ni eu meithrin i'n helpu ni i ymateb i'r heriau hyn? Sut gallwn ni leihau'r rhaniadau gwleidyddol sy'n llesteirio ymatebion ar y cyd i'r heriau hyn?
Nod y prosiect hwn yw trin a thrafod y syniadau hyn mewn perthynas ag ystyriaethau ymarferol o nodau addysg, rôl y cyfryngau mewn trafodaethau gwleidyddol a’r broses o lunio ymatebion polisïau cyhoeddus i heriau cymdeithasol.
Roedd digwyddiad ar 21 Medi 2022 yn cynnal trafodaethau ar y cyd i ddatblygu syniadau polisi penodol drwy ddod ag athronwyr academaidd, aelodau o fyd addysg, gwleidyddiaeth, y cyfryngau ac aelodau o'r cyhoedd yng Nghaerdydd ynghyd i dafod y problemau hyn mewn ffordd barhaus ac agored.
Arweinydd y prosiect
Cysylltu â ni
I gael rhagor o wybodaeth am Arloesedd i Bawb neu unrhyw un o’r prosiectau rydyn ni’n eu cefnogi, cysylltwch â ni: