Ewch i’r prif gynnwys

Hyrwyddo amrywiaeth a dealltwriaeth o fewnfudo drwy opera

Annog agweddau cadarnhaol at amrywiaeth drwy gerddoriaeth

Opera gan Mkhululi Mabija a Robert Fokkens sy’n cael ei berfformio gan un dyn yn unig yw Bhekizizwe. Roedd modd ei wylio ar-lein ar ffurf ffilm ym mis Mawrth 2021, ac mae’n ymwneud â dyn Zwlw ifanc o Dde Affrica o’r enw Bhekizizwe. Ym mis Tachwedd 2022, bydd Opera’r Ddraig yn mynd â'r cynhyrchiad ar daith, a bydd modd gwylio’r ffilm mewn gwahanol leoliadau ledled Cymru.

Mae’r prosiect Arloesedd i Bawb hwn yn ariannu rhaglen o weithdai cerddoriaeth ddigidol greadigol mewn ysgolion lleol a grwpiau ieuenctid, gan gynnwys gosodiadau a sgyrsiau wedi’u hwyluso â chymunedau lleol, a hynny ar y cyd â lleoliadau’r daith. Bydd y rhain i gyd yn cael eu cefnogi gan ddeunyddiau ar-lein newydd sy’n rhoi gwybodaeth am y perfformiadau a’r digwyddiadau ac sy’n cyflwyno themâu craidd ym meysydd mewnfudo a hiliaeth.

Mae’r deunyddiau hyn, a baratowyd gyda chymorth Race Council Cymru a phartneriaid eraill, yn gwahodd ac yn cefnogi ymatebion creadigol a phersonol i’r materion hyn gan gynulleidfaoedd a’r rhai sy’n bresennol, a fydd yn ffurfio rhan o archif ar-lein.

Arweinydd y prosiect

Dr Robert Fokkens

Dr Robert Fokkens

Senior Lecturer in Composition

Email
fokkensr@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 4378

Cysylltu â ni

I gael rhagor o wybodaeth am Arloesedd i Bawb neu unrhyw rai o’r prosiectau rydym yn eu cefnogi, cysylltwch â ni:

Civic Mission