Ewch i’r prif gynnwys

Hyrwyddo gweithgareddau ym maes yr economi gylchol i gymunedau ledled Caerdydd, Cymru a’r byd

Cynnwys y gymuned a busnesau mewn mentrau ym maes yr economi gylchol

Yn ddiweddar, sicrhaodd Ysgol Busnes Prifysgol Caerdydd dri grant sylweddol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwaith sy’n ymwneud â’r economi gylchol – dau grant cyfalaf i greu RemakerSpace yn adeilad sbarc|spark a grant ategol i ymchwilio i werth ail-bwrpasu. Daeth cyfanswm y grantiau hyn yn fwy na £700k. Mae’r ddau brosiect yn gofyn cydweithio â chwmni sydd wedi bod yn bartner i ni ers tro – DSV. Mae pedwar partner diwydiannol ychwanegol hefyd yn cefnogi’r prosiect sy’n ymchwilio i werth ail-bwrpasu.

Drwy waith yr Ysgol Busnes hyd yma, mae'r tîm wedi nodi cyfleoedd i wella effaith ein gwaith drwy weithgareddau ymgysylltu â'r cyhoedd sy'n codi ymwybyddiaeth ac yn cynnwys y gymuned a busnesau mewn mentrau pwysig ym maes yr economi gylchol.

Bydd y cyllid hwn (Arloesedd i Bawb) yn ei gwneud yn bosibl cyd-greu a datblygu gweithgareddau ategol a deunyddiau ar-lein er mwyn gwella cyrhaeddiad prosiectau a mentrau presennol a’r dyfodol ym maes yr economi gylchol, a hynny i’r diwydiant, busnesau bach a chanolig, ysgolion, sefydliadau addysg bellach, awdurdodau lleol, grwpiau cymunedol, elusennau a mentrau cymdeithasol.

Arweinydd y prosiect

Dr Thanos Goltsos

Dr Thanos Goltsos

Research Associate (EPSRC, Innovate UK, QIOPTIQ Ltd.)

Email
goltsosa@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 9325

Cysylltu â ni

I gael rhagor o wybodaeth am Arloesedd i Bawb neu unrhyw rai o’r prosiectau rydym yn eu cefnogi, cysylltwch â ni:

Civic Mission