Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil foesegol pan fydd achosion o wrthdaro ac argyfyngau dyngarol

Prosiect sy’n creu maniffesto ar gyfer ymchwil foesegol yn Ne Swdan.

Yng nghyd-destun gwrthdaro ac argyfyngau dyngarol parhaus, yn aml ni all De Swdan reoleiddio’r diwydiant ymchwil helaeth ar gymorth a gwrthdaro sy’n ecsbloetio’r wlad. Ar y cyfan, bydd miloedd o brosiectau ymchwil a ariennir yn rhyngwladol ac o dan arweiniad ymgynghorwyr allanol ac academyddion yn y Gogledd Byd-eang, yn blaenoriaethu allbynnau ymchwil brys er mwyn rhoi gwybod am gamau dyngarol.

Bydd hyn yn digwydd yn aml ar draul lles, tâl, diogelwch, cydraddoldeb a gyrfaoedd staff ymchwil yn Ne Swdan, yn ogystal ag ar draul cost emosiynol, amser a blinder pobl yn y cymunedau sy’n cymryd rhan. Mae’r economi anghyfartal hon ym myd ymchwil yn tanseilio’r ymddiriedaeth a’r ymdeimlad o gymuned sydd eu hangen i gynnal ymchwil sy’n wirioneddol gydweithredol ac arloesol, cyflwyno data cywir a moesegol, ceisiadau am gyllid, a chreu partneriaethau rhyngwladol.

Mae'r prosiect hwn yn dod â gweithwyr ymchwil yn Ne Swdan, pobl yn y cymunedau sy’n cymryd rhan, academyddion yn Ne Swdan ac ymchwilwyr rhyngwladol at ei gilydd i greu maniffesto ar gyfer ymchwil foesegol a chydweithio yn Ne Swdan. Mae hyn yn digwydd yn sgîl y trafodaethau cychwynnol am foeseg, cyflog teg a diogelwch yn y Rift Valley Institute, sefydliad ymchwil rhanbarthol sy'n hyrwyddo gwybodaeth leol a chymunedau ymchwil.

Yn dilyn uwchgynhadledd moeseg ymchwil, y maniffesto, a chyfres o dri phodlediad ar broblemau moesegol o bwys sy’n ymwneud ag ymchwilwyr o Dde Swdan a phobl yn y cymunedau sy’n cymryd rhan yn yr ymchwil, lluniodd y prosiect lwybrau ar gyfer gwaith ar y cyd o ran ymchwil foesegol.

Arweinydd y prosiect

Dr Nicki Kindersley

Dr Nicki Kindersley

Lecturer in African History

Email
kindersleyn1@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 9901

Cysylltu â ni

I gael rhagor o wybodaeth am Arloesedd i Bawb neu unrhyw un o’r prosiectau rydyn ni’n eu cefnogi, cysylltwch â ni:

Civic Mission