Ewch i’r prif gynnwys

Y Compact Swyddi Cymunedol

Creu swyddi a sicrhau arferion recriwtio teg ar gyfer cymunedau difreintiedig yng Nghaerdydd

Daeth arweinwyr cymunedol rhwng 17 a 25 oed o Butetown, Grangetown a Glan yr Afon ynghyd yn 2020 er mwyn datblygu ateb i oresgyn anghydraddoldeb wrth ymgeisio am swyddi, a hynny’n rhan o Citizens Caerdydd a Citizens Cymru Wales. O ganlyniad, crëwyd y Compact Swyddi Cymunedol – cydgytundeb rhwng cyflogwyr a chymunedau i wneud arferion recriwtio’n fwy teg yng Nghaerdydd.

Mae’r rhai sydd wedi llofnodi’r Compact Swyddi Cymunedol wedi ymrwymo i dalu cyflog byw gwirioneddol i bob gweithiwr, gan gynnwys mynd i'r afael â thangynrychiolaeth yn y gweithlu drwy ddileu enwau a chefndir yr ymgeiswyr o’u ceisiadau a rhoi hyfforddiant ar ragfarn ddiarwybod. Mae’r cynllun yn ceisio cynnig mwy o sicrwydd cyflogaeth, yn ogystal â chyfleoedd i ddatblygu a chael eich mentora. Mae Citizens Caerdydd yn hyrwyddo swyddi yn y gymuned ac yn annog pobl leol i ymgeisio amdanynt. Yn ogystal â hyn, mae’n rhoi cymorth i’r ymgeiswyr ac yn cyfeirio cyflogwyr at sefydliadau a allai eu helpu.

Yn dilyn llwyddiant y Compact Swyddi Cymunedol hyd yma, mae’r prosiect hwn yn ceisio ehangu ei gyrhaeddiad a’i gwmpas er mwyn deall yn well yr anghydraddoldeb cyflogaeth a deimlir ar draws yr arc deheuol, gan gynnwys yng Nghaerau, Trelái, Trowbridge a Llaneirwg. Nod y prosiect yw cryfhau'r berthynas â’r cyflogwyr sy’n rhan o’r cynllun ar hyn o bryd, gan gynnwys sicrhau aelodau newydd wrth brofi ffyrdd newydd ac arloesol o hyrwyddo swyddi a recriwtio unigolion o'r cymunedau difreintiedig hyn.

Arweinydd y prosiect

Dr Deborah Hann

Dr Deborah Hann

Uwch-ddarlithydd Cysylltiadau Cyflogaeth, Dirprwy Bennaeth Adran (Dysgu ac Addysgu)

Email
hanndj@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 5559

Cysylltu â ni

I gael rhagor o wybodaeth am Arloesedd i Bawb neu unrhyw un o’r prosiectau rydym yn eu cefnogi, cysylltwch â ni:

Civic Mission