Ewch i’r prif gynnwys

Dewch i gwrdd â’n llysgenhadon myfyrwyr

Mae'r cydweithio creadigol ac adeiladol rhwng y brifysgol a’r gymuned yn helpu ein gwaith yn Grangetown i ffynnu.

Mae gennym ddau lysgennad myfyrwyr sy’n gweithio gyda ni y flwyddyn academaidd hon, ac mae’r ddau ohonynt yn dod ag angerdd a phersbectif unigryw i'n gwaith yn y Porth Cymunedol.

Yassin Aldhahi

Mae Yassin yn fyfyriwr Peirianneg integredig ac mae yn ei drydedd flwyddyn. Mae’n hoffi cymryd rhan mewn llawer o weithgareddau ac mae wrth ei fodd yn manteisio ar unrhyw gyfleoedd sydd ar gael i ehangu ei orwelion a'i brofiadau. Mae ganddo gryn ddiddordeb technegol yn y diwydiant pŵer ac mae ar hyn o bryd yn ysgolhaig gydag IET Power Academy, mewn partneriaeth â'r Grid Cenedlaethol, ar ôl iddo gwblhau interniaeth 8 wythnos gyda nhw. Bydd yn dychwelyd atynt eto ar ôl blwyddyn olaf ei gwrs. Mae Yassin yn credu'n gryf ym mhwysigrwydd gwaith cymdeithasol a chymunedol ac mae'n edrych ymlaen yn fawr at gymryd rhan yn y Porth Cymunedol wrth iddynt gynllunio ar gyfer digwyddiad Wythnos Gyrfaoedd a Model Rôl Grangetown 2024.

Hanna Mahamed

Mae Hanna, myfyrwraig niwrowyddoniaeth blwyddyn gyntaf o Gaerdydd, yn awyddus i chwarae ei rhan yn y gymuned fywiog sy'n gartref iddi. Mae Hanna yn meddwl y byd o’i dinas genedigol, gan olygu ei bod yn ymroddedig i’w gweithgareddau academaidd yn ogystal â meithrin cysylltiadau o fewn y gymuned sydd mor agos at ei chalon. Gan gofleidio ei rôl fel llysgennad myfyrwyr, sydd â phwyslais ar gyfathrebu a chyfryngau cymdeithasol, mae hi’n ceisio ymgysylltu â'i chyfoedion a'r gymuned ehangach. A hithau o gefndir BAME a dosbarth gweithiol, mae cynorthwyo unigolion o gefndiroedd tebyg i gael y cyfle i fynd i addysg uwch yn rhywbeth sy’n agos iawn at ei chalon, yn ogystal â hyrwyddo cynwysoldeb ac amrywiaeth yn y brifysgol.