Gweithio gyda'n gilydd
Mae'r Porth Cymunedol yn cyflawni canlyniadau cadarnhaol ac ymarferol yn Grangetown o ganlyniad i'n gwaith partneriaeth creadigol, cydweithredol a hirdymor gyda thrigolion unigol, busnesau lleol a sefydliadau sefydledig.
Rydym yn gweithio i adeiladu cefnogaeth ar gyfer mentrau a arweinir gan y gymuned (gan gynnwys gwasanaethau a phrosiectau presennol) gan gyfuno arbenigedd prifysgol a chymunedol i gyflawni canlyniadau cadarnhaol ac ymarferol. Maent yn cynnwys Fforwm Ieuenctid, Wythnos Gyrfaoedd a Modelau Rôl, Grangetown Diogel, Parch ar y Ffordd a mwy.
Gwahoddir ysgolion academaidd o bob rhan o'r brifysgol i weithio ar brosiectau perthnasol ac mae ein Grŵp Llywio yn cynnwys cynrychiolwyr o Brifysgol Caerdydd a Grangetown.
Mae ein gwaith yn cael ei arwain gan Ysgol Pensaernïaeth Cymru y mae ei myfyrwyr ar lefel israddedig ac ôl-raddedig wedi gweithio'n agos ar brosiectau addysgu byw wrth i adeiladau a mannau trefol yn Grangetown ddatblygu.
Gyda'n gilydd, ein nod yw:
- buddsoddi mewn naw thema gymdeithasol, amgylcheddol neu economaidd a ddewisir gan gymunedau Grangetown
- darparu mynediad hawdd i gymunedau Grangetown ac aelodau'r brifysgol weithio gyda'i gilydd
- cynyddu ymwybyddiaeth o'r sgiliau a'r adnoddau sydd ar gael yn y brifysgol ar gyfer cymunedau Grangetown
- ymgysylltu â thrigolion Grangetown i nodi cyfleoedd ymchwil, addysgu a gwirfoddoli effaith uchel ac o'r radd flaenaf ar gyfer y brifysgol sy'n diwallu anghenion lleol ac yn helpu i wneud Grangetown yn lle hyd yn oed yn well i fyw