Wythnos Gyrfaoedd a Model Rôl Grangetown
Codi dyheadau trwy gysylltu pobl leol â mentoriaid, arbenigwyr a chyfleoedd.
Y syniad
Yn cynnig pobl Grangetown cyngor gyrfaoedd, arweiniad ar sut i gyrraedd y brifysgol, sut i wneud cais am swyddi a hyfforddi ar gyfer cyfweliadau.
Cynnydd
Mae'r wythnos Gyrfaoedd a Model Rôl bellach yn ei seithfed flwyddyn ac mae'n un o'r digwyddiadau mwyaf poblogaidd yng nghalendr Porth Cymunedol sy'n cynnig cyngor gyrfa a chwrs i drigolion Grangetown o bob oed.
Cynhelir digwyddiadau dros wythnos gan roi cyfle i breswylwyr gwrdd â staff academaidd a phroffesiynol o Brifysgol Caerdydd a derbyn cyngor, cefnogaeth ac arweiniad gyda cheisiadau.
Yn ystod yr wythnos, mae preswylwyr hefyd yn cael cyfle i gofrestru i fynd i ddiwrnod agored israddedig y Brifysgol ac yn cael cludiant o Grangetown i ddod.
Mae Porth Cymunedol wedi ceisio annog aelodau'r gymuned i fanteisio ar y cyfleoedd gwaith amrywiol sydd ar gael ym Mhrifysgol Caerdydd trwy weithio'n agos gyda staff o'r timau Adnoddau Dynol a hefyd Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd sy'n cynnig gwiriadau CV a chyngor gyrfaoedd. Bydd gwybodaeth am wasanaethau Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd, ynghyd â'r tîm Menter a Chychwyn Busnes ar gael trwy gydol yr wythnos.
Gall egin entrepreneuriaid a pherchnogion busnes ddysgu o sesiynau gwybodaeth ar sut i sefydlu busnes a chyfleoedd i gwrdd â'r tîm caffael i ddarganfod sut y gall busnesau weithio gyda'r brifysgol.
Mae'r wythnos Gyrfaoedd a Modelau Rôl wedi bod yn hynod lwyddiannus gyda nifer o drigolion lleol Grangetown yn ennill lleoedd ar gyrsiau Israddedig ac Ôl-raddedig yn y brifysgol - llwyddiant y mae Porth Cymunedol yn gobeithio adeiladu arno yn y dyfodol.
Community Gateway
Could your research, teaching or skills support this idea? We want your help to develop projects in Grangetown.