Ioga, straen a'r ymennydd sy'n heneiddio
Bydd ymchwilwyr Canolfan Delweddu Ymchwil yr Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC) yn profi effaith ioga ar straen.
Y syniad
Defnyddio MRI i brofi effaith pedwar mis o Ioga ar reoleiddio straen yr ymennydd mewn oedolion hŷn o gefndiroedd difreintiedig, o'i gymharu â grwpiau cerdded a grwpiau segur.
Symud Ymlaen
Prosiect dan arweiniad Claudia Metzler-Baddeley Cymrawd Ymchwil/Uwch Ddarlithydd mewn Seicoleg, Ysgol Seicoleg, Canolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd, Prifysgol Caerdydd (CUBRIC), i asesu a yw Ioga yn gwella rheoleiddio straen yn yr ymennydd trwy wella rheolaeth feddyliol a lleihau pwysedd gwaed a hormonau straen. Bydd y tîm yn defnyddio MRI i brofi effaith pedwar mis o Ioga ar reoleiddio straen yr ymennydd mewn oedolion hŷn o gefndiroedd difreintiedig, o'i gymharu â grwpiau cerdded a grwpiau segur. Bydd y prosiect hwn yn cynnig cipolwg newydd pwysig i weld a all Ioga helpu i frwydro yn erbyn y broses heneiddio yn yr ymennydd a dirywiad meddyliol.
Mae Community Gateway yn gyd-ymgeisydd sydd wedi'i enwi. Mae wedi recriwtio un o drigolion Grangetown fel cynrychiolydd lleyg, sy'n cyfrannu at y gwaith o ddylunio, cyflwyno a lledaenu'r ymchwil.
Camau nesaf
Yn aros am ganlyniad y cais am gyllid