Ewch i’r prif gynnwys

Caru Grangetown

Love GT girl

Mae'r Porth Cymunedol yn cefnogi Prifysgol Caerdydd a chymunedau lleol i weithio gyda'i gilydd tuag at nodau a rennir.

Mae Love Grangetown yn dod â'r Brifysgol a thrigolion lleol ynghyd i ddatblygu prosiectau sy'n seiliedig ar weledigaeth ar y cyd ar gyfer Grangetown.

Trosolwg

Lansiwyd Love Grangetown am y tro cyntaf yn 2015 ac mae'n ddigwyddiad cyd-ddylunio ac ymgysylltu blynyddol sy'n cael ei gynnal gan y Porth Cymunedol sy'n hwyluso cymunedau Grangetown a'r Brifysgol i gyd-gynhyrchu gweledigaeth a chynllun gweithredu ar gyfer dyfodol cadarnhaol i Grangetown. Mae'r digwyddiad yn helpu i adeiladu ar arferion teg yn y Brifysgol, wrth gyfnewid gwybodaeth ac adnoddau gyda'r gymuned leol.

Mae'r partneriaethau sydd wedi ffurfio rhwng cymunedau Prifysgol Caerdydd a Grangetown wedi arwain at newid gwirioneddol a gweladwy yn Grangetown, gan gynnwys Pafiliwn Grange, Fforwm Ieuenctid Grange, a Marchnad y Byd Grangetown.

Mae llawer o'r prosiectau a ddechreuodd fel breuddwydion yn 2015 wedi dwyn ffrwyth neu'n sefydliadau yn eu rhinwedd eu hunain. Mae tîm y Porth Cymunedol yn parhau i geisio doethineb, gweithredu a phartneriaethau cymunedol i yrru'r 5 mlynedd nesaf o gydweithio.