Anghenion y gymuned Somalïaidd
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Mae Prifysgol Caerdydd yn gweithio mewn partneriaeth â Chymuned Somali Caerdydd i adeiladu sylfaen wybodaeth o anghenion cymunedol Somali yn y ddinas
. Ers 2019 mae academyddion o Brifysgol Caerdydd wedi bod yn ymweld â Somaliland i ddatblygu cydweithrediadau ymchwil ar rai o faterion pwysicaf y wlad.
Trosolwg
Mae Caerdydd yn gartref i un o'r cymunedau Somalïaidd mwyaf yn y DU. Mae gwreiddiau'r gymuned wedi'u gwreiddio'n agos ag ymddangosiad Caerdydd fel porthladd rhwng diwedd y 19eg ganrif a chanol yr 20fed ganrif. Er gwaethaf hanes presenoldeb Somali yng Nghaerdydd, nid yw'r gymuned na'i hanghenion wedi cael eu hymchwilio'n helaeth ers sawl degawd.
Drwy gydweithio, mae'r prosiect hwn yn ceisio adeiladu sylfaen dystiolaeth gadarn o anghenion cymunedol Somali yng Nghaerdydd y gellir ei defnyddio fel sail prosiectau a arweinir gan y gymuned a chynigion cyllido.
Sefydlwyd Gweithgor Caerdydd-Somaliland i greu cysylltiadau agosach rhwng aelodau cymuned Somaliland yn y ddinas, staff academaidd a Llywodraeth Somaliland.
Mae arbenigwyr o amrywiaeth o ddisgyblaethau ar draws y Brifysgol yn archwilio sut y gall eu hymchwil helpu'r wlad wrth iddi ailadeiladu ac adfer ar ôl rhyfel cartref.
Mae'r ymchwil yn canolbwyntio ar nifer o bynciau cysylltiedig, gan gynnwys profiadau ymfudo, setlo ac integreiddio, hunaniaeth a lle, iechyd a lles, addysg, cyflogaeth a thai. Mae gan y prosiect ddiddordeb hefyd mewn darganfod am brofiadau o wahaniaethu (e.e. hiliaeth neu Islamoffobia yn ardaloedd y ddinas a/neu'r gweithle).
Ar ôl Covid, mae'r heriau sy'n wynebu'r Gymuned Somali yng Nghaerdydd wedi cynyddu, mae rhanddeiliaid o bob rhan o Iechyd, Addysg, Cyflogaeth, Plismona, Awdurdod Lleol a Llywodraeth Cymru wedi bod yn edrych ar ffyrdd o gydweithio ar fynd i'r afael ag economaidd-gymdeithasol a lles y gymuned.
Mae'r tîm ymchwil yn cynnwys Dr Richard Gale, Dr Andrew Williams, Ali Abdi, Sara Kalinleh a Samia Zarak.