Ein gwaith
Ein nod yw datblygu partneriaethau hirdymor, cyfartal, er budd i bawb, gyda thrigolion Grangetown a'r sefydliadau sy'n eu gwasanaethu. Yn benodol, rydym am:
- fuddsoddi mewn thema gymdeithasol, amgylcheddol neu economaidd wedi eu dewis gan gymunedau Grangetown
- darparu mynediad hawdd i gymunedau Grangetown ac aelodau Prifysgol Caerdydd weithio gyda'i gilydd
- cynyddu ymwybyddiaeth o'r sgiliau ac adnoddau sydd ar gael ym Mhrifysgol Caerdydd ar gyfer cymunedau Grangetown
- ymgysylltu â thrigolion Grangetown er mwyn canfod ymchwil dylanwadol o'r radd flaenaf, cyfleoedd dysgu ac addysgu i Brifysgol Caerdydd sy'n diwallu anghenion lleol a helpu i wneud Grangetown yn lle gwell byth i fyw ynddo.
Ein hegwyddorion
- partneriaethau hirdymor
- mentrau dan arweiniad y gymuned
- cynyddu cefnogaeth ar gyfer gwasanaethau a phrosiectau presennol
- cyfuno arbenigedd neu adnoddau'r gymuned a'r Brifysgol
- canlyniadau caadarnhaol ac ymarferol ar amrywiaeth o lefelau.