Ein tîm craidd

Ein nod yw datblygu perthynas ystyrlon a thymor hir gyda chymunedau lleol gan arwain at rannu ein cymuned ac arbenigedd y Brifysgol i gyflawni amcanion cyffredin.
Mae'r prosiect peilot wedi canolbwyntio ar Grangetown. Dyma un o’r etholaethau mwyaf amrywiol o ran diwylliant, yn ogystal ag un o’r rhai mwyaf o ran maint.
Mae'r Porth Cymunedol yn gobeithio chwarae rhan hanfodol mewn gwneud Grangetown yn lle gwell byth i fyw ynddo drwy gefnogi prosiectau cymunedol a chynnig ymchwil o'r radd flaenaf gan y Brifysgol, yn ogystal â chyfleoedd addysgu a gwirfoddoli sy'n ymateb i anghenion lleol.