Ewch i’r prif gynnwys

Rhaglen Ysgolion Cynradd

Gwyliwch ein fideo ar YouTube.

Mae Rhaglen Ysgolion Cynradd Prifysgol Caerdydd, a drefnwyd mewn partneriaeth â chynllun Cyngor Caerdydd Pasbort i'r Ddinas: Prifysgol y Plant, yn prosiect sy’n rhoi cyfleoedd i blant astudio pynciau sy’n cyd-fynd â’r Cwricwlwm i Gymru, dysgu sgiliau newydd a chodi uchelgais.

Mae'r Rhaglen Ysgolion Cynradd yn ymgysylltu ac yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf i ystyried addysg uwch fel opsiwn realistig a chyraeddadwy, ac mae'n canolbwyntio'n benodol ar weithio gydag ysgolion cynradd Caerdydd gyda'r gyfran uchaf o ddysgwyr sy'n profi amddifadedd economaidd-gymdeithasol.

Ers mis Medi 2023, mae Prifysgol Caerdydd wedi cynnal mwy nag 16 o sesiynau ar y campws, ac ynghlwm wrth y cyfan roedd 12 ysgol academaidd, wyth ysgol gynradd a mwy na 450 o ddysgwyr.

Lansiodd Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd raglen ysgolion cynradd 2023/24 drwy drefnu digwyddiad ar gyfer 54 o ddisgyblion o Ysgol Gynradd Willowbrook yn Llaneirwg. I ddathlu Mis Hanes Pobl Ddu, cafodd y disgyblion y cyfle i fwynhau diwrnod llawn canu ac offerynnau taro i gael trafod hil a chenedligrwydd.

Yn rhan o Ŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol, bu disgyblion ac athrawon o Ysgolion Cynradd Radnor, Lansdowne, All Saints a Bryn Celyn yn ymweld ag adeilad SBARC y Brifysgol i fwynhau diwrnod rhyngweithiol “Dewch i wybod rhagor am Les!” .
Croesawodd Ysgol Busnes Caerdydd hefyd 50 o ddisgyblion blwyddyn 6 o Ysgol Gynradd Windsor Clive, Trelái, i'r campws ar gyfer 'Diwrnod ym Mywyd Person Busnes'.

Ym mis Mehefin 2024, cynhaliodd Prifysgol Caerdydd seremoni raddio ar gyfer 150 o ddisgyblion o ysgolion a gymerodd ran o sy'n cymryd rhan o Dre-biwt, Trelái a Llaneirwg, i ddathlu llwyddiannau plant, lle'r oedd y graddedigion iau yn diosg eu capiau o flaen teulu a ffrindiau yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr.

Tri o blant mewn capiau a gwisg graddio.