Ewch i’r prif gynnwys

Cymuned leol ffyniannus yng nghwm Rhondda Fawr yw Treorci, lle ceir amrywiaeth o fusnesau lleol annibynnol.

Ond mae stryd fawr Treorci, fel llawer o strydoedd mawr eraill ledled y wlad, wedi teimlo effeithiau pandemig COVID-19.

“Wrth i’n siopau annibynnol, siopau lleol, a chadwyni cenedlaethol ddechrau agor eto’n dilyn y pandemig ofnadwy hwn, rydyn ni’n dechrau gweld effaith fawr yr argyfwng ar ein manwerthwyr,” meddai Adrian Emmett, Cadeirydd Siambr Fasnach Treorci a pherchennog busnes lleol. “Mae cefnogi busnesau’r stryd fawr gyda denu cwsmeriaid a nifer yr ymwelwyr yn ôl i ganol trefi, yn hollbwysig.”

Mae Ysgol Busnes Prifysgol Caerdydd yn cydweithio â phartneriaid, perchnogion busnesau bach ac arweinwyr cymunedol ar brosiect fydd yn cefnogi adferiad y gymuned yn dilyn COVID-19 trwy ddigideiddio stryd fawr Treorci.

Mae'r tîm yn cyflwyno ap a phlatfform gwe ar gyfer Treorci, er mwyn hyrwyddo siopa ar-lein yn lleol, twristiaeth a'r celfyddydau. Bydd yr adnodd marchnata hwn a arweinir gan y gymuned yn cysylltu busnesau bach â chwsmeriaid presennol a newydd, i helpu’r stryd fawr i ailgodi’n ôl yn dilyn effeithiau COVID-19.

Fel llawer o gymunedau, mae'r pandemig wedi effeithio'n fawr ar fusnesau lleol Treorci.

Stryd fawr ddigidol

Mae bod yn gynhwysol yn ddigidol yn gwbl allweddol i’r prosiect, gyda hyfforddiant ac addysg ar gael i bobl yn y gymuned i sicrhau bod gan bawb y gallu i ddefnyddio’r platfform digidol ac elwa ohono.

“Roedd perchnogion rhai busnesau’n ysu i ddechrau defnyddio’r ap, ond roedden nhw’n poeni y bydden nhw’n ei weld yn rhy gymhleth,” meddai arweinydd y prosiect, yr Athro Carolyn Strong. “Ein blaenoriaeth felly, oedd dechrau gweithio gyda phobl fusnes leol, er mwyn eu hyfforddi a sicrhau eu bod yn gyfarwydd â’r ap.”

Mae hyfforddiant i berchnogion busnes yn cael ei gyflwyno gan fyfyrwyr o'n Hysgol Fusnes sy'n byw yn ardal Treorci. Mae’r myfyrwyr hyn yn cael eu cyflogi i fod yn hyfforddwyr trwy’r prosiect. Maen nhw’n gallu rhoi arweiniad ar sut i ddefnyddio’r platfform, ac maent hefyd yn deall y gymuned leol ac anghenion y busnesau lleol.

Mae’r ymgysylltu parhaus rhwng ein Hysgol Fusnes â'r gymuned yn Nhreorci wedi bod yn hanfodol i lwyddiant y prosiect. Mae’r cysylltiadau rhwng y gymuned a’r Ysgol Busnes wedi caniatáu i fyfyrwyr weithio gyda busnesau lleol er mwyn dysgu am ymchwil i’r farchnad a chynlluniau busnes, ac mae’r cysylltiadau wedi arwain at weld grŵp o’r Ysgol Busnes yn beirniadu cystadleuaeth arddangos ffenestr Nadolig y dref hyd yn oed.

Mae perchnogion busnesau lleol Treorci yn cael eu hyfforddi i ddefnyddio’r platfform digidol gan fyfyrwyr o’n Hysgol Fusnes sy’n byw yn y gymuned.

Adeiladu ar ysbryd cymunedol

“Yr angerdd ynghylch tref Treorci a'r ysbryd cymunedol – dyna'r allwedd i'r prosiect hwn,” meddai'r Athro Strong.

Gwelwyd tystiolaeth o’r ysbryd cymunedol hwn trwy gydol pandemig COVID-19, gyda pherchnogion busnesau lleol yn gweithio gyda’i gilydd i gefnogi ei gilydd, gan gynnwys dod o hyd i PPE gyda’i gilydd, i wneud yn siŵr bod gan bob busnes ddigon i agor a gweithredu’n ddiogel. Mae’r gymuned wedi gorfod wynebu a goresgyn llawer o rwystrau, gyda’r pandemig yn cyrraedd fisoedd yn unig ar ôl i lifogydd difrifol ddinistrio cartrefi a busnesau’r dref.

Yr ysbryd cymunedol hwn yw un o’r rhesymau pam y dewiswyd Treorci yn dref beilot yng Nghymru ar gyfer platfform digidol NearMeNow, ac mae’r ysbryd cymunedol hwn wedi’i gydnabod sawl tro â nifer o wobrau. Dyfarnwyd gwobr Stryd Fawr y Flwyddyn Prydain Fawr 2019 i'r dref, gwobr a oedd yn dathlu "cryfder ac agwedd benderfynol y bobl leol sy'n ymroi i gefnogi eu cymunedau."

Mae Treorci wedi’i chydnabod am ei hysbryd cymunedol cryf, gan dderbyn gwobr Stryd Fawr y Flwyddyn Fawr Prydain yn 2019.

Edrych tua'r dyfodol

Mae gan y gymuned fusnes yn Nhreorci gynlluniau mawr ar gyfer eu platfform digidol. Ar ôl y cam cychwynnol hwn, maent yn gobeithio ehangu’r ap i gynnwys mwy na manwerthu yn unig, gan ganiatáu i fusnesau twristiaeth, celf a diwylliant lleol eraill elwa ohono, a rhoi lle i ymwelwyr Treorci ddod o hyd i bopeth maent ei angen yn ystod eu hymweliad.

Nod y tîm yw cynnal y bartneriaeth hon a hefyd cefnogi’r cynllun tymor hwy o gyflwyno’r ap i gymunedau a busnesau lleol eraill ledled Cymru, er mwyn eu cefnogi hwythau.

“Mae camau breision wedi’u cymryd wrth ddigideiddio’r stryd fawr, ond rhaid i ni beidio â rhoi’r gorau i’r cynnydd hwnnw nawr bod mesurau cloi wedi’u llacio,” meddai’r Athro Strong. “Trefi digidol yw’r allwedd i sbarduno adferiad economaidd Cymru yn sgîl y pandemig.”

Dolenni cysylltiedig

Team working on jigsaw

Ysgol Busnes Caerdydd

Rydym yn ysgol busnes sydd wedi’i hachredu gan AACSB Rhyngwladol ac AMBA ac mae gennym â bwrpas clir o ran gwerth cyhoeddus: gwneud gwahaniaeth yng nghymunedau Cymru a'r byd.

Gardener at the Grange Pavilion

Prosiectau cymunedol lleol

Rydym yn defnyddio ein hystod eang o arbenigedd i gefnogi a chyflwyno prosiectau effeithiol a arweinir gan y gymuned ochr yn ochr â gwirfoddolwyr myfyrwyr a staff.