Ewch i’r prif gynnwys

Teithiau cerdded yn y DU a thramor

Machu Picchu at sunrise

We know our global #TeamCardiff community are an adventurous lot, and UK or overseas treks and challenges (or local depending on where you are in the world!) are a great way to achieve a lifelong dream, experience something amazing, and make a difference.

Rydym yn gwybod bod ein cymuned fyd-eang #TeamCardiff yn griw anturus, ac maeth teithiau a heriau yn y DU neu dramor (neu'n lleol yn dibynnu ar ble rydych chi yn y byd!) yn ffordd wych o gyflawni breuddwyd gydol oes, profi rhywbeth anhygoel, a gwneud gwahaniaeth.

Tripiau a heriau tramor

Mae llawer o ddarparwyr a all eich helpu i ddod o hyd i'ch her elusennol berffaith gan gynnwys Charity Challenge a Discover Adventure.

Mae rhai o'r teithiau a'r heriau tramor mwyaf poblogaidd yn cynnwys:

Mae ystod eang o heriau a chyrchfannau ar gael, a nifer o ffyrdd i ariannu eich her dramor. Sgyrsiwch â ni i gael rhagor o wybodaeth.

Teithiau a heriau yn y DU

Ymhlith rhai o'r teithiau a'r heriau mwyaf poblogaidd yn y DU mae:

Yr arian y byddwch chi’n ei godi

A chithau’n rhan o #TeamCardiff gallwch chi ddewis codi arian ar gyfer naill ai niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl neu ymchwil canser ym Mhrifysgol Caerdydd. Drwy gefnogi'r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr, gallwch helpu i gyflymu darganfyddiadau sy'n newid bywydau i wella’r gwaith o atal, rhoi diagnosis a thrin pobl sy'n byw gyda chyflyrau megis canser, clefyd Alzheimer, Parkinson, iselder ysbryd a sgitsoffrenia.

Sut byddwn ni’n eich cefnogi

  • Crys-T neu fest technegol #TeamCardiff rhad ac am ddim wedi'i wneud o blastig wedi'i ailgylchu, unwaith y byddwch chi’n codi dros £50
  • E-byst #TeamCardiff sy’n cynnwys cyngor ar godi arian a hyfforddi ar gyfer y ras
  • Cewch chi becyn adnoddau digidol #TeamCardiff; ynddo ceir graffeg cyfryngau cymdeithasol, ffurflen noddi a syniadau ar gyfer codi arian
  • aelod penodol o'r tîm i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi

Cysylltwch â ni

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, trafod opsiynau, neu ddweud wrthym am eich cynlluniau codi arian #TeamCardiff, cysylltwch â ni a gallwn helpu gyda'r holl gyngor a chefnogaeth rydych eu hangen i ddod o hyd i'r opsiwn cywir i chi.

Stephanie Cuyes

Stephanie Cuyes

Swyddog Codi Arian Cymunedol

Email
cuyess@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 6551